Daethant o ardaloedd Caerdydd, Casnewydd, Y Bontfaen ac Aberdâr. Llywydd y Rhanbarth yw Jill Griffiths o Gangen Radur. Bu Jill yn byw yn Llwydcoed am gyfnod ac yn aelod blaenllaw o Gwmni Drama'r Carw Coch. Roedd ganddyn nhw stondin yn gwerthu nwyddau a chyfle am bicnic ar ôl cerdded am dipyn i weld cartref yr Hebog ger y Darren. Roedd y Parch Eric Jones gyda nhw i droi eu sylw at ambell safle o ddiddordeb ar y ffordd. Yn y llun mae'r "Merched" yn mwynhau eu picnic. Daraprwyd deisen ar gyfer pen blwydd Merched y Wawr yn 40 oed.
 |