Fe fydd y Nadolig yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobol yn yr oes seciwlar hon. Mae'n dda cofio fod y rhan fwyaf o ysgolion a mudiadau yn dal i gynnal gwasanaethau gyda Naws y Nadolig a'r elfen Gristnogol yn rhan ohoni. I lawer o bobol, mae'r elfen hon yn dal i fod yn bwysig, gydag ymweliad ag eglwys neu gapel yn rhan o'r ddefod Nadoligaidd. I eraill, mae'r ŵyl wedi colli ei hystyr wreiddiol yn llwyr ac nid yw'n ddim mwy nag esgus dros wario arian, gloddesta, mynd o un parti i'r llall , a bod yn rhan o weithgareddau sydd ddim yn gwneud lles i unrhyw un yn y pendraw. Rywle yn y canol, mae nifer fawr sydd yn cael eu dal gan hud y Nadolig, y goleuni llachar yn bywhau eu bywyd, y seren yn eu harwain at fod yn ymarferol garedig tuag at bobl heb deulu, y di gartref, y tlawd neu rai sydd yn mynd drwy gyfnod anodd. Mae'r ŵyl yn gyfle i ddangos caredigrwydd ac yn gyfle i gael mwynhad ac yn gyfle i adnewyddu cyfeillgarwch a chyfarch hen ffrindie. Boed eich Nadolig chi yn Nadolig fydd yn rhoi llawenydd parhaol yn eich calon, yn Nadolig sydd yn rhoi ystyr arbennig i'ch dathlu ac yn Nadolig fydd yn cario boddhad gyda chi i'r flwyddyn newydd. Isod, mae pennill a ddanfonwyd (yn un o dri phennill) at Clochdar gan y Parch Geoffrey G. Davies o Gwmgwrach. (Ymddiheuriadau am na chafodd ei gynnwys y flwyddyn ddiwethaf.) Teyrnasiad Crist,
Roedd Cesar ar ei Orsedd bell
Yn llywodraethu'r byd,
Pan ddaeth yr Iesu'n faban bach
I orwedd yn y crud
Erthygl olygyddol rhifyn Rhagfyr o'r Clochdar. Drama'r Geni yn 2007
 |