| 'Doedd y Crysau Duon heb golli'r un gêm ar eu taith felly mae'n sicr bod y dorf yn edrych ymlaen am gêm galed a chyffrous. Newyddion i mi oedd mai dyn ifanc o Abernant a sgoriodd yr unig gais i selio'r fuddugoliaeth i Gymru. Mae'r gêm yn enwog oherwydd fod Bob Deans yn mynnu ei fod wedi sgorio cais i Seland Newydd ar ddiwedd y gêm - ffaith sy' wedi ei ddiystyru ers hynny. Edward (Tedi) Morgan oedd y sgoriwr i Gymru ond 'roedd nifer o chwaraewyr disglair yn y tîm e.e. Gwyn Nicholls (capten), Rhys Gabe, Dickie Owen a Percy Bush. Fe aeth Tedi Morgan i Ysgol Abernant yna i Ysgol Uwchradd y Gadlys. (Doedd dim Ysgol Ramadeg y Bechgyn y pryd hynny.) Yna, trwy haelioni ei ewythr, fe aeth ymlaen i Goleg yr Iesu, Aberhonddu. Yna, fe gafodd lwyddiant mawr fel myfyriwr ac ym myd y campau. Ar ôl gadael Aberhonddu fe aeth i Lundain i astudio yn Ysbyty Guy's i fod yn feddyg. Chwaraeodd Rygbi i dîm yr Ysbyty a dechreuodd ei yrfa rhyngwladol yn 1902 pan enillodd Cymru yn erbyn Lloegr o 9 pwynt i 8. Bu'n gapten ar Gymru yn ei gêm olaf ryngwladol yn 1908. Gadawodd Llundain ac fe ddaeth yn ôl i Sgeti fel meddyg teulu mawr ei barch. Yna, symudodd i Swydd Norfolk lle talwyd teyrnged iddo fel cymwynaswr i nifer oedd yn
methu talu i weld y meddyg - hyn cyn dyddiau'r Wladwriaeth Les. Bu Tedi Morgan farw ym Mis Medi 1949 yn 69 mlwydd oed. Rhif 15 yn y tîm yn 1905 oedd Dai Jones (Bobi) o Aberaman - colier oedd e cyn iddo ymuno â'r heddlu. Gŵr ifanc o Aberdâr a ddewiswyd i chwarae rhan Tedi Morgan yn y rhaglen deledu. Yn addas iawn Gwion Jones oedd yr actor - mab Y Parch Eric a Mrs Anne Jones. 'Rwy'n siŵr i Gwion fwynhau'r profiad o bortreadu'r dyn talentog hwn a sgoriodd y cais dyngedfennol i Gymru ac ennill lle yn hanes Rygbi Cymru. Diolch i Mr David R Owen (Abernant) am anfon yr hanes i mi. Mae David yn dipyn o arbenigwr ar Rygbi. Ym Mis Tachwedd 1985 argraffwyd erthygl gan David (a chymorth y diweddar Rhydwen Williams) yn y cylchgrawn 'Barn'. Teitl yr erthygl ydy `Cofio Tedi Morgan' ond mae hefyd yn rhoi hanes y tîm buddugol ac yn werth ei ddarllen. Siomedig oedd y canlyniad eleni yn erbyn Seland Newydd ond pob lwc i'r tîm yn y dasg anferth o'u blaenau yn ystod yr wythnosau nesaf. Ann Jones
 |