BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clochdar
Cwm Cadlan
Mehefin 2005
Ar ddiwrnod braf ym mis Mehefin mae'r olygfa o ben y twyn rhwng Cwm Taf a Phenderyn yn hynod o brydferth.
Ar ddiwrnod o haf y llynedd bu damwain ddifrifol ar yr Heol 470 ger Cefn Coed y Cymer. Bu'n rhaid i'r rhes hir o geir oedd am fynd i Gaerdydd gymryd ffordd osgoi anghyfarwydd. Aethant yn araf, yn llinyn hir diderfyn, ddringo'r heol gul, droellog trwy'r goedwig i ben y rhiw. Wedi croesi'r glwyd ar lawr sy'n atal anifeiliaid, daethant allan o'r coed a gweld o'u blaen gwm glas yn ymestyn i'r gorllewin, ffermydd ar y llethrau ac ar lawr y cwm, ac yn y pendraw pentref bychan yn llechu wrth droed graig. Ar ben y graig gellid gweld tŵr Eglwys y Plwyf.

I nifer o'r teithwyr yn y ceir roedd y cwm yma'n hollol ddiarth ac yn dipyn o syndod. Yn wir, pan welodd un fenyw ffermwr ar gefn cobyn du gyda'i ferched ifanc ar eu merlod, wedi troi i'r naill ochr i adael i'r traffig anarferol fynd heibio, pwysodd drwy'r ffenestr ac ymddiheuro am darfu ar eu byd cyfrin, ddirgel.

Os oedd y cwm diarffordd hwn yn anghyfarwydd i deithwyr brys y trydydd Mileniwm, nid felly oedd yn y canrifoedd cyn Crist. Yn oes y Pres a'r tywydd bryd hynny yn fwy tebyg i hinsawdd Môr y Canoldir, roedd copaon y bryniau o gwmpas yn boblogaidd gan y trigolion. Mae olion eu cytiau cylch mewn lIawer man, a'u lIestri ac offer wedi'u darganfod yn y cernydd sydd wedi'u harchwilio.

Wedi i'r hinsawdd waethygu symudodd trigolion pentref hynafol Pant Sychbant a phobl Mynydd y Glog a chefn Cadlan i lawr i'r lIethrau, difa'r coed ar lannau Nant Cadlan ac addasu at ffordd newydd o amaethu. Magu gwartheg, defaid, merlod a geifr fyddai eu ffordd o fyw yn y canrifoedd i ddod.

Yn raddol fe roddwyd y gorau i'w haneddai pren a defnyddio'r cerrig diri o'u cwmpas i wneud tai mwy parhaol i ddyn ac anifail. A'r tywydd yn parhau'n oer a gwlyb codwyd lIawer o dai fferm a'r talcen o dan dir ac ar groes i godiad y tir - roedd cysgod yn werthfawr. Tai hirion oeddynt, yn cynnal y teulu dynol a'r da byw o dan yr un to.

Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg, y tai hirion cerrig hyn oedd yn britho'r lIethrau a lIawr y cwm, ffermydd fel Blaen Cadlan, Esgair Cadlan a Wernlas; rhai yn cadw enw hen berchennog a fu, megis Cae Madog Ddu, a Thir Madog lwyd. Rhywbryd yn y ganrif nesaf fe newidiwyd yr enwau hyn. Daeth Tir Madog lwyd yn Coedcaedu a Chae Madog Ddu yn Garwdyle - yr enwau newydd yn dynodi safle y ddwy fferm. Gwnaed yr un peth ac enw'r fferm yng nghanol y cwm. Nid gwn i beth yn iawn oedd yr hen enw "Miherer Grm" mewn rhai dogfennau, ond newidiwyd yr enw i Glynperfedd - disgrifiad hollol addas.

I'r fferm hon, i Glynperfedd, y daeth fy rheini Ifan a Martha Williams, fy mrawd bach Hywel a minnau, i fyw yn 1931. Er mai ar fferm yr oedd y ddau wedi'u codi, cigydd oedd fy nhad, a mam yn athrawes cyn priodi. ColIi fy mrawd leuan yn 4 a hanner oed a roddodd yr hwb iddyn nhw symud o'r siop cigydd ar Hirwaun a mentro i gymryd fferm. Roedd Glynperfedd mewn cyflwr gwael, wedi'i esgeuluso oherwydd henaint ac yna marwolaeth y ffermwr, a chafodd fy nhad chwe mis yn ddi-rent ac addewid o welliannau i'r tŷ, adeiladau eraill, a chyweirio'r ffensys i'w ddenu i'w chymryd hi. Ond roedd nhad yn ffyddiog y gallai wneud iddi dalu'i ffordd.

Doedd mam ddim mor galonogol. Er bod y tŷ yn fwy o faint, roedd e'n hen. Cegin enfawr a lle tân mawr agored ar un pen. Dim trydan, nôl i gynnau lampau a chanhwyllau, dim tap dŵr yn y ty - nôl i gario dŵr o'r ffynnon. Dim tŷ-bach chwaith - doedd erioed wedi bod un yno - ond mynnodd mam y byddai un wedi'i godi tu ôl i'r tŷ cyn y bydden ni'n symud i mewn.

Doedd symud o stryd mewn pentref mawr i fyw ar fferm ddim yn newid mawr i mi gan fy mod wedi cyfarwyddo â gwaith fferm wrth ymweld yn gyson â'm tad-cu a mam-gu yn fferm Berthlwyd, Hirwaun, a'm modryb (bopa) Siwan ac ewythr (owa) Sam yn Rhigos. Byddai'n fwy o daith i'r ysgol - 10 munud o gerdded cyflym i lawr i Ysgol Pontbrenllwyd (hanner awr i ddringo nôl).

Ysgol fach gymysg yn lle ysgol fawr i ferched yn unig, ac yn lle athrawes, athro. Ond doedd hyn ddim yn achos dychryn - roedd y gŵr ifanc yn gyfarwydd iawn, yn ewythr hynaws a charedig - brawd iengaf fy mam - Dilwyn Roderick.

Mwynheais yr amser yn Ysgol Penderyn er gwaetha'r sioc o weld ar fy niwrnod cyntaf - dau fachgen mewn ffeit ac yn curo'u gilydd yn ddidrugaredd. Roedd yr awyrgylch yn fwy cartrefol, y plant yn gyfeillgar a'r athrawon yn siarad Cymraeg yn ogystal â Saesneg â ni. Yn aml, bydden nhw'n dysgu rhai plant o ffermydd anghysbell oedd yn anghyson yn eu presenoldeb, yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg. Dwy ieithog oedd y chwarae yn yr iard gan fod 'na deuluoedd uniaith wedi symud i'r pentref a rhai rhieni Cymraeg yn mynnu i'w plant siarad Saesneg yn unig.

Roedd y capel, Jerusalem, CM. yn nes na'r ysgol, capel bach, bach. Ysgol Sul yn y bore, diflas iawn gan nad oedd y blaenwr druan yn fawr o athro. Cwrdd yn y prynhawn, pregethwr o gapel mawr Bethel ar Hirwaun. Cwrdd gweddi yn yr hwyr a chwrdd bob nos Fercher.

Roedd mynd i'r cwrdd wythnos yn beth allan o'r cyffredin. Yn y gaeaf byddai'n rhaid mynd â'r lamp stabl i oleuo'r ffordd dros y caeau. Roedd y IIwybr o Glynperfedd wedyn yn mynd drwy ran o chwarel galch Llwynon, trwy'r 'Crusher' ac wedyn heol galed at y ffordd fawr. Gan fod y 'Crusher' wedi'i wneud bron yn gyfan gwbl o haearn sine, roedd yn gallu bod yn swnllyd ar brydiau, ac roedd cerdded oddi tano ar noson dywyll bob amser yn fenter ac weithiau'n frawychus pan fyddai dafad oedd yn lIochesu yno yn peswch neu'n neidio allan.

Wrth gwrs ar nos Fercher byddai Mam gyda ni ac yn aml Toss y ci defaid yn ein dilyn. Gwrthodai Toss pob ymdrech i'w gael i fynd adre a byddai'n dod at ddrws y capel a gorwedd yn dawel trwy'r oedfa. Un noson wlyb iawn dyma Hywel a minnau'n mynnu iddo gael dod i mewn i'r lobi. Ni wnaeth sŵn, ond ymddiheurodd mam i'r gweinidog, y Parch Teifi Davies, am ddod ag ef i mewn i'r cwrdd. "Peidiwch a hidio, Mrs Williams fach" meddai "Mae Toss yn un o'r ffyddloniaid!" Roedd Hywel a fi'n meddwl mai Sant oedd ein gweinidog ni.

Er bod y ffordd heibio'r cwar yn fwy cyfleus, byddai golwg ofnadwy ar ein traed wedi cerdded o dan y 'crusher' IIwch melynwyn yn dawch ar ein hesgidiau ar dywydd sych, lIaid melyn-frown gludiog ar ôl glaw. Ac yna i lawr y 'Run' â ni. Hewl galed wedi'i tharro oedd y 'Run', tua chanllath o hyd, hawdd ei cherdded ond yn agored i'r tywydd. Chwythau'r gwynt y glaw i'n hwynebau wrth fynd lawr ac yn y gaeaf byddai gwynt y dwyrain yn treiddio trwy bob dilledyn fel cyllell.

Mae'n debyg i'r ffordd ei alw'n Run' oherwydd y gallai'r tramiau'n lIawn cerrig redeg yn weddol hamddenol ar hyd y dramlein heb gael help ceffyl na pheiriant i lawr at y peiriant pwyso.

Fe ddes i'n gyfarwydd iawn a'r 'Run' a'r 'Crusher' yn ystod yr wyth mlynedd y buom yn Glynperfedd wrth fynd i ysgol y pentref, ac wedi imi basio'r ysgoloriaeth, am saith mlynedd fe redais â'm hanal yn fy nwrn i ddal y bws ysgol a lIusgo nôl yn fluddiedig a bag trwm o Iyfrau ar fy nghefn. Ond bu cyfarwyddo â'r daith hon ar noson dywyll yn y gaeaf yn anodd a bu un noson arbennig yn ystod y gaeaf cyntaf yn hunllefus.

Darllenwch rhan olaf hanes Cwm Cadlan gan Nansi Sellwood


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy