| Mae Clwb Rygbi yr ysgol wedi bod yn brysur iawn eleni ac wedi gorffen y tymor gyda chryn dipyn o lwyddiant. Fe chwaraeon nhw yng nghystadleuaeth yr Urdd ar gaeau clwb rygbi Abercynon gan lwyddo i fynd trwodd i'r rownd derfynol yn y Strade, Llanelli gydag Ysgol Gynradd Caegarw. Hefyd fe gystadlon nhw yng nghystadleuaeth tag rygbi yn Aberpennar ar ddiwrnod braf o Fai ar ôl annog rhai o ferched y dosbarth i ymuno â'r tîm. Rhaid diolch i Lowri Bevan am sgorio cais arbennig ar ôl rhedeg fel y gwynt ar hyd y cae o un ochr i'r llall. Yn wir, mae tipyn o siarad rygbi wedi bod trwy'r tymor gyda nifer fawr o blant yr ysgol yn chwarae rygbi dros glybiau lleol sef Abercynon, Aberpennar ac Aberdâr. Roedd y tri tîm yma yng nghystadleuaeth cwpan Heart of Wales a llwyddodd clybiau Abercynon ac Aberdâr gyrraedd y rownd derfynol. Gyda nifer yn chwarae dros glwb Abercynon, Josef Bowcott, Garyn Jones, George Keepings, Tristan Blewitt, Michael Williams, Callum Eynon a Daniel Phillips a dim ond un yn chwarae dros glwb Aberdâr sef Gwilym Rees Williams roedd llawer o ddiddordeb yn y gêm. Chwaraewyd y gêm ar gaeau Merthyr ar noson braf o fis Mai. Gêm gyffrous iawn gydag Aberdâr ar y blaen trwy'r gêm tan yr eiliadau olaf pan sgoriodd Abercynon i gael y sgôr yn gyfartal. Rhannu'r darian oedd y penderfyniad ac felly, daeth pawb yn ôl i'r ysgol yn hapus iawn.
 |