| Roedden ni'n cystadlu mewn cyflwyniad Dramatig i ddysgwyr a'r grŵp Llefaru i ddysgwyr. Gadawon ni canolfan Yr Urdd, Aberdar yn ein `Transporter' ni ar y prynhawn Mercher a chyrraeddon ni ar ôl pedair awr yng Ngwersyll yr Urdd Glan-Llyn. Arhoson ni yna am ddwy noson.
Ar bore Iau, codon ni am hanner awr wedi pump i fynd i'r rhagbrofion am y grŵp llefaru. Roedden ni'n adrodd "Y Trydydd Byd" gan Myrddin ap Dafydd. Roedden ni'n lwcus iawn i fynd trwyddo i'r llwyfan a daethon ni yn drydydd. Hwre!
Ar prynhawn Gwener, gwnaethon ni y cyflwyniad dramatig i ddysgwyr pan roedden ni'n actio ar thema 'Nos Sadwrn' gyda chymeriadau diddorol fel Gavin Henson, Charlotte Church, 4 brenhines, Tony Blair a Nia Parry! Cawson ni sioc mawr pan daethon ni yn gyntaf! Roedd llawer o gefnogaeth a cheers wrth i ni dderbyn ein tlws.
Roedd ein taith ni i'r Eisteddfod yn brysur iawn gyda llawer o broblemau, ond rhywsut, gyda help oddi wrth Vic, Nic a Hel o Cic fe gyrhaeddon ni. Diolch yn fawr iawn i'r merched am bopeth mae nhw wedi gwneud i ni.
Hefyd hoffwn i ddiolch i Elen a Catrin o'r Urdd am eu help nhw gyda'r ddawns a'r sgript a phawb sydd wedi rhoi arian i ni i helpu gyda'r taith!
Hyd yn hyd cawson ni brofiad ardderchog a mwynheuon ni popeth amdano fe! Yn arbennig pan gwrddon ni a Mr Urdd! Roedd y trip yn fendigedig a rydyn ni'n edych ymlaen i ddechrau ymarferion i'r Eisteddfod 2007! Sara Jenkins
Blwyddyn 12
Ysgol loan Fedyddiwr, Aberdar. Cliciwch yma i weld gwefan Eisteddfod yr Urdd 2006 gyda lluniau o'r Maes.
 |