| Fel y gwelwch roedd hi'n bwrw glaw yn drwm ar y pryd, fel pe na bai wedi bwrw glaw erioed o'r blaen. Mae'r safle i'w weld o hyd mewn cwm diarffordd lle roedd yr Ymneiltuwyr cynnar tua 1620 wedi penderfynu cyfarfod yn sgubor y fferm i'r pwrpas o addoli. Roedd y cyfan yn anghyfreithlon ac mae traddodiad yn dweud fod y ffermwr yn cadw gwair a gwellt yn y sgubor yn ystod yr wythnos ac yn gwagio'r sgubor erbyn y Sul er mwyn gwneud lle i'r dwsin neu ddau o addolwyr. Dyma achos cyntaf yr Ymneulltuwyr yn yr ardal ond fe dyfodd nifer o gapeli Aberdâr, Merthyr a'r cylch allan o'r ffynhonnell hon. Mae yna gynllun o ddatblygu'r tir o gwmpas yr hen safle yn ganolfan siopa a hamdden ond mae'r cynllunwyr wedi cytuno i gadw'r hen safle fel ag y mae a nodi ei phwysigrwydd i'r cyhoedd. Fe gedwir y safle wrth gwrs ond fe gollir yr hud a'r syniad o fod ymhell o bob man.
 |