Gwaith y cerflunydd Robert Koenig o Wlad Pwyl yw'r arddangosfa sy'n dwyn y teitl "Dziady" neu "Hynafiaid". Mae Robert wedi eu harddangos mewn eglwysi a chanolfannau tebyg dros Ewrop. Cyn dod i Gwmaman dan nawdd Cymunedau Gyntaf, roedd yr arddangosaf wedi bod yng nghadeirlannau Salisbury a Chaereforg yn ogystal â'i famwlad.
Cofio am wahanol deithiau wnaeth ei hynafiaid mae Robert - ambell i daith yn rhan o fywyd normal teuluoedd ym mhob man, yn mudo wrth geisio gwaith a chynhaliaeth; ond ambell i daith yn cofio'r llwybr a arweiniodd i Dachau ac Auswitz i eraill o deulu Robert.
Cerfluniau o ryw 10 troedfedd ydyn nhw, weithiau yn cyd-sefyll fel grŵp - tro arall fel pobl mewn rhes. Arddangosfa deithiol yw hon. Pan dechruodd Robert Koenig ar y gwaith saith cerflun yn unig a greodd. Ychwanegodd at y rhif dros y blynyddoedd gan gymryd coeden o'r ardal mae'r arddangosfa yn ymddangos ynddi, ac ychwanegu cerflun newydd.
Trefn newydd fydd yng Nghwmaman, fodd bynnag. Yn lle bod y ffigwr newydd roedd Robert wrthi'n creu yn nhir yr eglwys drwy'r wythnos yn ymuno â'r arddangosfa, aros yn y pentref y bydd. Ffigwr Joseff ydyw, nid o reidrwydd y sant, ond Joseff y dyn, teithiwr, artisan, gwerinwr.
Allwn i ddim llai na meddwl mor addas oedd cynnal yr arddangosfa yma yng nghanol cymoedd Morgannwg. Er na welodd ein hynafiaid ni ddim byd tebyg i'r erlidigaeth a brofodd teulu Robert, roedd odessy, taith, mudo, yn rhan o'u profiad nhw hefyd.
Pan ffrwydrodd poblogaeth y cymoedd o ganol y l9eg ganrif ymlaen, pan roedd glo yn frenin, mewfudwyr o rannau eraill o Gymru oedd mwyafrif llethol y bobl a ddaeth i Gwmaman a phentrefi tebyg. Ac wrth gwrs mudo i Slough neu Birmingham fu hanes nifer rhagor ohonynt yn nyddiau'r Dirwasgiad.
Mae eglwys St Joseff a'r Ficer, y Tad David Way, i'w llongyfarch am y weledigaeth i wahodd yr arddangosfa hon i'r pentref. Os welsoch chi hi, bydd yn siwr o aros yn y cof os na welsoch hi, ewch i weld y cerflun unigol adawodd Robert Koenig ar ôl, gan gofio bod iddo gwmni yn y cerfluniau pren eraill, o waith artistiaid lleol, sy'n britho'r llwybrau o amgylch yr eglwys erbyn hyn. Mae'r llwybrau hyn yn llawn werth eu cerdded hefyd.
Bydd Cwmaman yn derbyn ymweliad hefyd ym mis Awst gan aelodau'r Academi Gymreig. Taith yw hon, yn cychwyn o Gaerdydd am 8 y bore, yn dilyn llwybrau mebyd y bardd Eingl Gymreig, Alun Lewis. Dr John Piloulis o'r brifysgol yng Nghaerdydd fydd y darlithydd a chodir tâl o £50 am ymuno â'r daith.
Perthyn i un o deuluoedd mwyaf dawnus a hynod Cwmaman oedd Alun ac er iddo farw tua diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Bwrma, fe'i hystyrir yn un o feirdd mwyaf y ganrif ddiwethaf. Pa bryd y codir cerflun iddo ef tybed yn ei bentref enedigol?
Ers blynyddoedd ceir cofeb ar y tŷ lle'i ganed yn Heol Llanwynno a enwir cartrefi lloches y pentref ar ei ôl, sef Cwrt Alun Lewis; ond teilwng fyddai gweld rhywbeth mwy trawiadol hefyd. Dyma brosiect allai ddod â cherflun arall i Eglwys St Joseff.