| Bu cartref y teulu yn 218 Cardiff Rd, Aberaman (slop fferyllydd Shepperd's heddiw) ac ar yr 2il o Hydref dadorchuddiwyd plac glas i goffau Linton a'i orchest wrth ennill pencampwriaeth seiclo'r byd yn Ffrainc ym 1895, ar adeg pan oedd y gamp hon yn ei 'babandod'. Tua'r un pryd, fe wnaed braslun ohono gan yr arlunydd enwog Toulouse-Lautrec. Roedd Linton yn un o garfan o ddynion ifanc yn Aberaman y dyddiau hynny a ddaeth yn fyd-enwog fel arloeswyr seiclo rhyngwladol. Ymysg y lleill bu ei frawd Tom a hefyd Jimmy
Michael. Cofir am deulu'r olaf yn yr ardal hyd heddiw yn enw'r cae pêl-droed lleol - 'Mike's Field'. Ymhlith selogion y byd seiclo mae enwau'r Lintons a Jimmy Michael yn dal ar gof a chadw. Ceir ffenest
goffa iddynt yn eglwys St. Margaret, Aberaman yn ogystal - yr unig un yn y byd i seiclwyr rhyngwladol fe ddwedir.
Dadorchuddiwyd y plac glas newydd fis Hydref yn eglwys St Margaret gan Faer Rhondda Cynon Taf cyn ei osod ar furiau'r slop yn 218 Cardiff Rd. (lle y'i gwelir bellach). Daeth nifer o ddisgynyddion y Lintons - o Gwmdâr, Llundain, Essex a Lincoln - i'r eglwys am yr achlysur a siaradodd Stuart Stanton o Sheffield (a Thredegar cyn hynny), arbenigwr ar hanes seiclo ym Mlhrydain, am bwysigrwydd y Lintons a'u cyfoedion yn natblygiad y gamp ar lefel ryngwladol.
Digwyddiad anarferol a diddorol oedd y dadorchuddiad hwn, ac yn un a ddylai fod wedi cael mwy o sylw nag a gafwyd yn y wasg. Gwelir ambell lun o'r diwrnod gyda'r darn hwn.
I'r sawl sydd â diddordeb yn yr hanes, fe ddaw ail gyfle i glywed Stuart Stanton - siaradwr difyr a gwybodus - pan ddaw i ddarlithio i Gymdeithas Hanes Cwm Cynon am 7.15 yr hwyr ar y 18fed Chwefror 2010. Bryd hynny, fe fydd yn traethu ar y testun "Sut y Dyfeisiwyd Seiclo Rhyngwladol yn Aberaman"; ac mae disgwyl eto i nifer o ymwelwyr o bell fod yn bresennol y noson hon.
 |