| Roedd y gadair yn eiddo i deulu Williams, perchnogion pwll y Werfa a dwy chwaer y teulu werthodd y tŷ i Raymond Davies. Nid oes neb yn gwybod sut y daeth y gadair i fod yn rhan o eiddo'r teulu Williams. Tybed a oes rhywun yn rhywle yn gallu taflu goleuni ar y mater? Enillwyd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe ym 1907 am awdl i John Bunyan. Yr enillydd oedd y Parch Thomas Bethel Davies a oedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr mewn capel ym Mount Stuart Square yn Nociau Caerdydd. Y wobr oedd ugain hen geiniog a'r Gadair. Y beirniaid oedd Dyfed, Pedrog ac Elfyn. Ganwyd Thomas Davies gerllaw Corwen yn 1854 ac roedd ei wraig, Eleanor, hefyd o ardal Corwen. Addysgwyd ym Mryste ac mae nifer o gyhoeddiadau, fel y Genhinen wedi cyhoeddi ei farddoniaeth. Bu farw ym 1922 wedi gwaeledd hir. Claddwyd ym Mynwent Cathays yng Nghaerdydd. Mae'n ymddangos nad oedd ganddo deulu ar ôl. Ond roedd ganddo Gadair y Genedlaethol a'r cwestiwn mawr yw - sut y daeth honno i fyw i Abernant?
 |