BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clochdar
Cwm CadlanCwm Cadlan 2
Awst 2005
Y rhan olaf o stori Nansi Sellwood am ei hatgofion am Gwm Cadlan
Pan euthum i Glynperfedd roedd gennym was a morwyn ond bu'r ddwy flynedd gyntaf yn anodd iawn yn bennaf oherwydd nad oedd 'na farchnad gyson i'n llaeth.

Bu'n rhaid rhoi'r gorau i gadw help parhaol a dibynnu ar gymorth gweithwyr crwydrol oedd yn barod i weithio am dymor am ychydig o gyflog a bwyd a llety. Ar ben hynny disgwylid i ni blant gynorthwyo gyda'r gofalu am y ffowls a gwneud mân ofalon eraill.

I gymharu â llawer o blant fferm fe gafodd fy mrawd a minnau amser go dda. Disgwylid inni roi help llaw pan fyddai angen ond gan ein bod yn dipyn o 'scolars' cawsom ddigon o amser i astudio ac i ymuno â gweithgareddau yn y pentref.

Bryd cynhaeaf wrth gwrs roedd pawb at ei eithaf. Pan fyddaf yn teithio at hyd hewl Cadlan ac edrych draw at gaeau Glynperfedd, cofiaf fel y byddai Mam a minnau yn rhoi'r ystodau gwair gyda'n racanau bach; cywain gyda'r ceffyl a'r gambo - fi at ben y llwyth, nhad yn pitsho a'r big hir, mam yn dilyn tu ôl i'r gambo yn crynhoi'r gwair adawyd ar ôl a'm brawd bach yn cydio yn ei sgert ac yn llefain oherwydd y gwybed.

Ar Gae Main oedd hynny y noson roedden ni heb help o gwbl, y gwair yn barod i'w gywain a'r glaw yn bygwth. Roedden ni'n tri yn chwys diferi ac yn edrych yn eiddigeddus draw at Gellifolws. Roedden hwythau yn cywain ond yn deulu o oedolion a nifer o ieuenctid y pentre yn eu cynorthwyo. Gallwn eu clywed yn canu a chwerthin wrth weithio a ninnau'n gofidio na fyddem yn gallu clirio'r cae cyn nos. Rwy'n cofio inni fod yn rhy brysur i sylwi fod y miri yn Gellifolws wedi tewi ac aethom yn syn pan glywsom leisiau'n nesau ac yna nifer o ddynion yn dringo dros ben y wal y pen draw i'r cae.

Gwaeddodd Rhys Gellifolws "Gan bwyll Ifan Williams, run ni ma" ac yna Rhys yn fy ngalw i lawr o ben y llwyth ac yn dringo yn fy lle, Wil ei frawd wedi dod â phig arall ar ei gefn ac yn pitsho am y gorau a Nhad. Bechgyn yn cydio mewn racanau ac yn crynhoi gweddill y gwair yn barod i'r llwyth nesa'. Ymhen dim roedd y llwyth ar ei ffordd i'r sgubor a Mam a Hywel a minnau yn cael mynd i'r tŷ; cael sbel ac yna paratoi swper at gyfer ein hachubwyr. Ond ddaethon nhw ddim. "Elin Gwen 'cw a swper yn barod i ni" eglurodd Rhys. Dim eisiau diolch chwaith - gwneud cymwynas cymydog - dyna i gyd.

Rwy'n cofio inni fynd i'r gwely yn diolch i Dduw am bobl Gellifolws a chyn cysgu clywsom y glaw ar y to.

Erbyn y cynhaeaf y flwyddyn nesaf roedd Nhad wedi trefnu gyda dau chwarelwr i ddod i'n helpu. Dau o'r un enw - Defi Jones - Defi Jones Tŷ Canol (dyn lleol), a Defi Jones Tŷ Capel oedd yn wreiddiol o Sir Drefaldwyn, a heblaw fod yn weithwyr dygn roedd y ddau'n ymgomwyr diddorol. Teimlai mam a fi ei bod yn werth paratoi swper dda i'r ddau yma gan ein bod yn mwynhau eu straeon difyr wrth iddynt fwynhau smoc ar ôl bwyta. Buont yn dod atom yn gyson wedyn tra buom yn Glynperfedd ond bu'n rhaid iddynt wrthod dod atom ni pan symudasom i Bencae - roedd yn rhy bell i gerdded yno ar ôl diwrnod yn y chwarel a gweithio wedyn ar y gwair.

Doedd Mam a Nhad erioed wedi meddwl symud o Glynperfedd. Erbyn 1939 roedd pethau wedi gwella ar y fferm - y Bwrdd Marchnata llaeth wedi creu marchnad sefydlog a hwythau wedi prynu a magu stoc dda nes bod ganddyn nhw fusnes laeth da bellach. Roedd y ddiadell defaid wedi cynyddu hefyd. Roeddwn i yn y Chweched Dosbarth a'm bryd at fynd i'r Brifysgol a Hywel yn argoeli fy nilyn yn y byd addysg. Felly doedd dim pwrpas newid i fwy o fferm.

Beth bynnag, ym mis Mawrth 1939 fe ddaeth neges annisgwyl oddi wrth WM. Llewelyn Tynewydd, y glo-feddianwr oedd wedi prynu nifer o ffermydd ym Mhenderyn ac Ystradfellte a ffurfio ystad. Roedd Pencae, rhwng Hirwaun a Phenderyn, ac angen deiliad newydd. Y Nhad gafodd y cynnig ac er iddo ei wrthod ar y cyntaf, perswadiodd WM. iddo fynd â Mam gydag ef i weld y fferm. Syrthiodd y ddau mewn cariad â hi - Nhad a'r caeau glas, cynnar a chysgod y perthi a'r coed; Mam â'r ardd fawr ffrwythlon o flaen y tŷ.

Felly at Medi laf 1939, llwythwyd y celfi at y gambo ac aethom i lawr i Bencae.

Ni ddaeth ein cysylltiad agos â Chwm Cadlan i ben. Mae teulu fy modryb Amy wedi dal i amaethu Wernlas at' hwyr hi sy bellach yn gofalu am dir Pencae. Ac mae Cwm Cadlan, ei hen gaeau gwair llysieuog, ei weinydd gyda'u planhigion prin, bellach yn Dir Gofal.

Rhan gyntaf hanes Cwm Cadlan


Cyfrannwch

Ciera D o Hirwaun
Rydw i wedi mwynhau ddarllen y darn yma gan Nansi Sellwood. Wnaeth fy dad tyfu i fynu yn Cwm Cadlan a mae fy mamgu yn dal i byw yna ar fferm 'Wernlas'. Mae'n ddiddorol darllen am rywle rydw i yn adnabod.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy