| Bydd 'Delwyn Siôn a'i Ffrindiau' yn noson hwyliog ac mae'r cerddor o'r cwm, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yn edrych 'mlaen yn fawr i berfformio o flaen cynulleidfa gartrefol a chyfarwydd yn Theatr Sefydliad Cwmaman. "Ddechreues i ganu yn Aberdâr yn y capel ac mewn cystadlaethau felly mae'n addas mod i'n mynd nôl yna ar gyfer y cyngerdd 'ma - ma' sawl blwyddyn ers i fi ganu 'na ddiwethaf a dwi'n edrych mlaen yn fawr i'r noson. "Fe gafo ni aduniad ysgol Ynys Lwyd rhyw dair blynedd yn ôl ac o'dd hi'n grêt gweld yr hen griw - gobeithio ddewn nhw i'r cyngerdd hefyd - sen braf eu gweld yna." Yn ymuno â Delwyn fydd Siân James, Angharad Brinn sy'n canu ar ei CD ddiweddaraf, Dim ond Cariad, a Chôr Caerdydd. Datblygodd diddordeb Delwyn mewn cerddoriaeth pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Rhydfelen. Yno sefydlodd ei grŵp cyntaf - Madog. Ymysg yr aelodau oedd ei gyfeillion Charlie Britton, a aeth ymlaen i fod yn ddrymiwr i Hergest ac Edward H Dafis, a Iolo Jones a chwaraewr ffidl Ar Log. Aeth Delwyn yntau ymlaen i ffurfio Omega cyn camu i'r llwyfan ar ben ei hun gyda'r gitâr yn unig yn gwmni. Dyw hi ddim yn syndod fod Delwyn wedi cymryd at y gitâr cystal ac yntau wedi cael athro go arbennig - ei gefnder cyntaf Max Boyce. "Ron ni'n arfer chware caneuon pop 'da'n gilydd - finne'n chware'r piano a Max ar y gitar - cyn iddo fy nysgu i sut i chwarae'r gitâr hefyd. "..Yn ni 'rioed wedi chwarae ar y llwyfan 'da'n gilydd - dim ond yn y tŷ. Pwy a ŵyr - falle alla i ei berswadio fe i ymuno 'da fi am gân neu ddwy yn y cyngerdd yn Aberdâr!" Delwyn Siôn a'i Ffrindiau: Nos Wener, 31 Mawrth, 2006 am 7.30pm yn Theatr Sefydliad Cwmaman.
Mae'r cyngerdd yn rhan o ymgyrch Yma i Chi BBC Cymru yn Aberdâr. Bydd y cyngerdd yn cael ei recordio ar gyfer BBC Radio Cymru. Am docynnau yn rhad ac am ddim, ffoniwch 08703 500 700.
 |