| Roedd dros 180 o gapeli yma ar un adeg a cheir hanes digwyddiadau fel y Diwygiadau, y diwylliant oedd ynghlwm wrthynt a lluniau di-ri o bron bob capel, ynghyd â lluniau o addurniadau, pobl, gweinidogion, tripiau Ysgol Sul ag ati. Mae hyn yn sicrhau fod hanes y capeli a'u gweithgareddau wedi ei gofnodi am byth mewn cyfrol foethus o dros 400 o dudalennau. Awdur y gyfrol yw Alan Vernon Jones o Gwmdâr (gynt o Aberpennar) ac mae wedi bod yn ymchwilio am dros ugain mlynedd. Lansiwyd y gyfrol yn Amgueddfa Aberdâr ar Dachwedd 12fed gyda'r Athro Hywel Teifi Edwards a'r Parch Eric Jones yn siarad. Daeth nifer dda ynghyd i'r cyfarfod a diolchir i Gymdeithas Hanes Cwm Cynon am y weledigaeth o gyhoeddu llyfr mor swmpus. Gellir cael y gyfrol am y pris rhad o £20.00 oddi wrth yr awdur drwy ffonio 01685 879731, neu wrth Siopau Llyfrau a chanolfannau fel y Parc Gwlad, yr Amgueddfa, swyddfa Bost Trecynon ac yn y blaen. Cofio'r Diwygiad Ar y diwrnod dilynol, cafwyd cyfarfod i nodi effaith y diwygiad yng Nghwm Cynon, gan mlynedd yn ôl. Ar Dachwedd 13eg 1904, y daeth Evan Roberts i Gapel Bryn Seion, Trecynon am y tro cyntaf. Siaradwyd eto yng nghapel Green Street, gan yr Athro Hywel Teifi Edwards ar effaith y diwygiad yn gyffredinol ac yng Nghwm Cynon. Wedi lluniaeth, canwyd rhai o emynau'r diwygiad ac roedd y canu yn orfoleddus. Cyflwynwyd yr emynau a'r tonau gan y Parch Eric Jones a chanwyd yr organ gan Sheridan George, tra roedd Phillys Brace yn cadw trefn ar y canu. Trefnwyd y cyfarfod hwn gan Cytun - eglwysi Cwm Cynon a bu aelodau'r pwyllgor yn trefnu arddangosfa ddiddorol yn neuadd capel Green Street. Bu'r ddau diwrnod yn achlysuron cofiadwy dros ben yn hanes Anghydffurfiaeth Cwm Cynon a da oedd gweld nifer o Gymry Cymraeg yn bresennol yn y ddau gyfarfod.
 |