Roedd rhaid i ni ddod â ffrwythau a dwr, ond doedd dim rhaid i ni brynu ffrwythau oherwydd rydyn ni'n gwerthu ffrwythau yn yr ysgol nawr. Mae llawer ohonon ni yn prynu ffrwythau o'r ysgol achos mae nhw'n hyfryd iawn ac yn ein cadw ni'n iach yn lle siocled a chreision. Yn gyntaf chwaraeon ni gyd pêl droed a thamaid bach o rygbi. Chwaraeon ni gemau hefyd, roedd e'n llawer o hwyl a sbri. Ar ôl bore prysur ar yr iard aethom ni mewn i'r neuadd i ddawnsio, canu a chwarae gemau fel CROCODEIL! Er fy mod i'n methu dawnsio na chanu yn dda iawn roedd e dal yn ddiwrnod gwych ac yn edrych ymlaen at wneud rhywbeth tebyg yn y dyfodol. Roedd rhaid i bawb gael ei noddi cyn y diwrnod a chasglom ni llawer o arian tuag at adnoddau newydd i'r ysgol. Sophie Lewis, Blwyddyn 5
 |