| Sefydlwyd ef yn Weinidog ar yr 20fed o Fedi 1962 ar ôl treulio rhai blynyddoedd fel myfyriwr yn y Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin ac yna yn y Brifysgol yng Nghaerdydd lle y graddiodd gydagAnrhydedd mewn Cymraeg ac yna mewn Cymdeithaseg. Mae'n frodor o bentre Cribyn gerllaw Llanbedr Pont Steffan ac yno y codwyd ef fel mab i fferm Cwmllydan. Oherwydd gwendid llygaid ( fel canlyniad i'r Frech Goch) ni gychwynnodd yn yr ysgol tan oedd yn naw mlwydd oed ac mae hynny wedi effeithio'n fawr ar ei hyder a hynny yn parhau hyd heddiw. Yn ystod y blynyddoedd, ychwanegwyd gofal capel yng Nghaerdydd ac yng Nghefncoed at ei ofalaeth, ac mae'r cyfnod diweddar wedi bod yn un prysur, yn enwedig gyda llawer iawn o deithio hwnt ac yma. Gweithio gyda chymdeithasau Cymraeg Yn Aberdâr, bu'n weithgar gyda nifer o fudiadau lleol yn enwedig rhai Cymraeg fel yr Eisteddfod Gymraeg, Eisteddfod Ieuenctid, Eisteddfod yr Henoed, Canolfan yr Urdd a'r Ysgolion Cymraeg. Erbyn hyn, mae wedi bod yn olygydd ar bapur bro "Clochdar" am bedair blynedd ar ddeg. Yn eu tro bu'n Llywodraethwr ar Ysgolion Ynyslwyd, Ysgol Gymraeg Abercynon, Ysgol Gyfun Rhydfelen, Ysgol Gyfun Rhydywaun ac Ysgol Gynradd Caradog. Am dros ugain mlynedd, bu'n Gadeirydd Morgannwg Ganol i Fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg ac yn Gadeirydd Cenedlaethol o 1988 - 1991. Bu'n arwain dirprwyaeth i Neuadd y Sir am flynyddoedd i ymgyrchu am sefydlu mwy o Ysgolion Cymraeg yn y Sir. Bu'n pwyso am flynyddoedd i gael adeilad newydd ar gyfer Ysgol Ynyslwyd ac Ysgol Uwchradd Gymraeg o fewn y Cwm. Cymerodd bron i 30 mlynedd o ymgyrchu cyn y cafwyd y ddwy ysgol. Am ddeuddeg mlynedd, bu'n Gadeirydd Pwyllgor dewis a hyfforddi gweinidogion Undodaidd dros Wledydd Prydain a bun Llywydd ei Enwad ym Mhrydain ym 1989. Am bum mlynedd ar hugain, trefnodd gyrsiau ar gyfer pobl ifainc yng Ngwersyll Llanmadog ym Mro Gwyr a bu'n sbardun i sefydlu canolfan ar gyfer ieuenctid yng Nghwmwrdu ger Gwernogle yn y chwedegau. Mae'r sefydliad hwnnw newydd ddathlu ei ddeugain mlynedd hefyd. Yn ogystal, mae wedi bod yn ysgrifennydd cyffredinol ei Enwad yng Nghymru ers y 1960au ac yn dal i fod yn Ymddiriedolwr o Gronfa Syr David James, Pantyfedwen sydd yn cwrdd yn Aberystwyth. I dathlu achlysur ei ymddeoliad, mae cinio wedi ei drefnu ar Chwefror 22ain ac fe fydd achlysur ychwanegol yn Highland Place, Aberdâr ar Nos Fercher, Mawrth 10fed, a chroeso i unrhyw un ddod i'r achlysur hwnnw.
 |