| Daeth llond bws ynghyd o ardal Aberdâr a theithio i Lanberis gyda Bws Nelson. Doedd y gyrrwr ddim yn gyfarwydd iawn â theithio i Ogledd Cymru a dewisodd y ffordd fwyaf anodd ar gyfer bws drwy Flaenau Ffestiniog a Chapel Curig. Go dynn oedd hi i fynd o gylch ambell i dro yn y ffordd a'r bws druan yn rhygnu ar hyd rhiwiau serth cyn cyrraedd y gwesty a ninnau'n cael digon o groeso gan y staff lleol. Bwyd yn gyflym wedyn a mynd fel y gwynt i gyfeiriad Gwyl y Faenol roedd Bryn Terfel, Aled Jones, Kathryn Jenkins a Catrin Finch yn perfformio, yn ogystal â Chorau Serendipidi a phlant Glanaethwy. Cyrraedd yn hwyr a cheisio cerdded drwy fuarth rhyw fferm er mwyn ei gwneud hi am y golau llachar a'r canu oedd eisoes wedi dechrau. Heibio i'r llyn wrth ochr Plas y Faenol heb golli neb ynghanol y dwr a dod o hyd i seddi oedd yn wag mewn man delfrydol ar flaen y gynulleidfa. Tipical! Gwledd o ganu, golau llwyfan amryliw a ninnau ymhlith y saith mil o bobol oedd wedi dod ynghyd i fod yn rhan o noson o ganu cysegredig oedd yn cael ei recordio ar gyfer Dechrau Canu, Dechrau Canmol a "Songs of Praise". Bu rhai fel Lilian ac Audrey yn ddigon ffodus i gael eu llun ar y Dechrau Canu. Sgwn i faint dalon nhw am y fraint? Y wefr fawr oedd cael bod ynghanol saith mil o gynulleidfa yn yr awyr agored, nifer yn eistedd ar y borfa wedi dod a'u bwyd a'u gwin gyda nhw - ac roedd y profiad yn un gwefreiddiol. Cyn troi am y bws, mwynhau'r tân gwyllt a cheisio casglu pawb at ei gilydd a dilyn Tom i gyfeiriad y bws. A bod yn onest doedd gan Tom na'r un ohonom y syniad lleiaf ymhle roedd y bws. Ond mae gwyrthiau yn dal i ddigwydd ac fe gyrhaeddon ni bob un wedi llwyr flino a lwyddwyd i gael gyrrwr y bws i gymryd y ffordd gywir yn ôl i'r gwesty. Roedd pawb wedi mwynhau yn fawr ac ambell un wedi dysgu ambell i air Cymraeg newydd a gyrrwr y bws wedi dysgu sut oedd ynganu Brynrefail a Felinheli. Diolch i Mary Hughes a Mary Watkins am eu gwaith yn paratoi ac mae pawb yn awyddus iawn i gael trip arall heb fod yn hir dan y teitl "Adnabod Cymru". Y diwrnod dilynol, aethom i Landudno. Aeth rhai i fyny'r Gogarth, eraill i weld Anti Flo a'r gweddill yn bwyta hufen ia ar y Prom ac ymweld â siopau hen bethau. Pryd blasus yn y gwesty a chychwyn am adre y bore wedyn cyn colli unrhyw un oedd yn awyddus i fynd ar y trên i ben yr Wyddfa ac aros am seibiant ac ymweliadau â Thai Bach Porthmadog cyn ei throi hi am Aberystwyth a chael cinio blasus ganol y prynhawn. Yn y llun gwelir swyddogion Merched y Wawr gyda'r siec a dalodd am y daith i'r Faenol.
 |