Mae'r golofn yn gyfle i ni roi gwybodaeth i chi'r darllenwyr ynglŷn â gwaith y Fenter. Mae'r golofn hon wrth gwrs yn gyfle i mi dalu teyrnged i Steffan Webb a fu'n Prif Swyddog y fenter ers y cychwyn yn 1991. Mae dilyn Steffan yn her fawr i mi a dwi'n gobeithio y gallaf ddatblygu gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg a hefyd annog sefydliadau eraill i ddarparu gwasanaethau yn yr un modd. Hoffwn hefyd ddweud diolch i Penri Williams a oedd wedi cymryd yr awenau dros dro ac sydd wedi bod yn gefnogol iawn i mi wrth i mi baratoi ar gyfer y swydd. Parti Ponty
Mae Parti Ponty ar y gorwel eto eleni gyda digwyddiadau wedi eu trefnu i ddathlu'r iaith Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf. Noson Lawen Ar nos Iau 5ed o Orffennaf mae Noson Lawen wedi ei threfnu yng Nghanolfan Dysgu gydol oes Garth Olwg. Bydd Ieuan Rhys yn arwain y noson gyda Delwyn Siôn, côr y Gleision, Fflur Dafydd, Côr YGG Garth Olwg a Catrin Dafydd ymysg y perfformwyr. Mae Tocynnau ar gael ar 01685 877183 neu 01443 219589, £6 a £4 consesiwn. Gig
Nos Wener 6ed o Orffennaf yng Nghlwb y Bont bydd gig gyda Cowbois Rhos Botwnnog, Pwsi Meri Mew ac Anweddus. Tocynnau ar gael trwy ffonio 01443 226386 neu ar y drws £5. Parti
Ar ddydd Sadwrn 7fed o Orffennaf cynhelir gŵyl fawr ym Mharc Ynysyngaharad, Pontypridd. Mi fydd mwy o stondinau nag erioed eleni gyda llu o weithgareddau wedi eu hanelu at blant a theuluoedd. Ar y llwyfan bydd nifer o ysgolion lleol yn perfformio a Martin Geraint. Mi fydd crefftwyr, aelodau o dîm rygbi Gleision Caerdydd a Chymru, trampolîn, paentio wynebau a mwy. Y cyfan sydd ei angen nawr yw Haul. Mae mynediad yn rhad ac am ddim ac yn cychwyn am 10:00 i bara nes 5:00. Dewch yn llu!!Alun Cox,
Prif Weithredwr
 |