BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clochdar
Steffan Webb yn gadael Menter Rhondda Cynon Taf. Llun gan y Fenter. Ffarwel a diolch
Chwefror 2007
Steffan Webb yn ffarwelio fel Prif Weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf i ymgymryd â'i swydd newydd ...
Mae braidd yn rhyfedd i ysgrifennu hyn achos ar ôl blynyddoedd o ffarwelio â gwahanol aelodau o staff am wahanol resymau, y tro yma fi sy'n ffarwelio â chi gan fy mod wedi derbyn swydd newydd fel Rheolwr Ansawdd ac Hyfforddiant Cymraeg i Oedolion o fewn Coleg Gwent yn Y Fenni. Felly dyma'r erthygl olaf y byddaf yn ei hysgrifennu i bapurau bro Rhondda Cynon Taf.

Hoffwn i ddiolch yn gyntaf i Penri Williams ac Eric Jones, Golygyddion Tafod Elai a Clochdar, ac hefyd cyn gadeiryddion Menter Iaith. Mae'r ddau wedi bod yn help mawr i mi dros y blynyddoedd ac mae'r papurau wedi rhoi pob cyfle i fi a staff eraill y Fenter adrodd am ein gwaith a gofyn am gefnogaeth y cyhoedd at yr hyn rydym yn ceisio cyflawni yn y gymuned. Mawr yw fy niolch hefyd i John Ll Thomas sy'n parhau fel Cadeirydd Ymddiriedolwyr y Fenter. Mae fy niolch diffuant yn mynd at bob cyn-gadeirydd, trysorydd ac ysgrifennydd Menter Iaith, a Menter Taf-Elai fel ag yr oedd, yn ogystal â phob aelod o'n gwahanol pwyllgorau.

Steffan Webb. Llun gan y FenterHoffwn i ddiolch hefyd i holl bartneriaid y Fenter dros y blynyddoedd Dyfrig Morgan yr Urdd, Jim Price, Ron Jones, Chris Ashman, Paul Dear, Caroline Mortimer a Vivian Lloyd o Gyngor Rhondda Cynon Taf, holl staff Interlink wrth gwrs, GTFM a Phrifysgol Morgannwg, Aled ac Afryl yn benodol o'r BBC - ble byddai Parti Ponty heb Radio Cymru? Pwy arall? Y Cymro, Golwg, ysgolion y sir, Bwrdd yr Iaith Gymraeg fel cyllidwyr a chefnogwyr ymarferol hefyd. Ymddiheuriadau i'r cyrff ac unigolion nad wyf wedi cyfeirio atynt.

Hoffwn i ddiolch hefyd i bob aelod o staff sydd wedi bod gyda fi dros y blynyddoedd yn enwedig efallai Huw T Davies, Rhian James, Vicky Pugh a Helen John oedd yn ffurfio uned fach gadarn iawn i'm cefnogi a gweddill staff y Fenter dros y blynyddoedd. Gan fod tua 100 o bobl yn gweithio i'r Fenter ar unrhyw un adeg dwi ddim yn mynd i geisio diolch i bob un nac ychwaith enwi pob un ond dwi yn cofio nifer fawr ac wedi elwa o'ch ymdrechion cyson.
Steffan Webb

Nodyn gan y Golygydd:
Mae Clochdar yn dymuno'n dda i Steffan Webb wrth iddo dderbyn swydd arall ac yn diolch iddo am y gwaith diflino a gyflawnodd ar hyd y blynyddoedd fel Prif Weithredwr Menter Iaith. Fe wnaeth ymdrech fawr i sicrhau cyllideb enfawr i gyflogi rhywbeth fel dwsin o swyddi Cymraeg yn y Sir a rhyw hanner dwsin ohonynt yn ardal Aberdâr, naill ai yng Nghanolfan yr Urdd neu yn Swyddfa'r Fenter nepell o'r Amgueddfa a Siop Tesco.

Yn ychwanegol, roedd degau o swyddi eraill rhan amser yn y Clybiau Carco a gwaith ieuenctid a chyfle i bobl ifainc a dderbyniodd addysg gyfrwng Cymraeg i ddefnyddio'r iaith yn eu bywyd bob dydd - cyfle sydd yn llawer rhy brin yn yr ardaloedd hyn o hyd - ydym ni'n fodlon ar y sefyllfa honno? Cyfle i ofyn cwestiwn i ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn ystod y tri mis nesaf.

Pob Lwc yn y gwaith newydd Steffan!

  • Ewch i wefan y Fenter i weld oriel luniau o Steffan Webb ar hyd y blynyddoedd. (Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol)


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy