BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clochdar
Y criwO Rydywaun i Wlad Pwyl
Tachwedd 2006
Wrth i weddill myfyrwyr chweched dosbarth ysgolion Rhydywaun, Ystalyfera, y Fro, Gwynllyw, a Glantaf fwynhau diwedd eu gwyliau haf, bu grŵp o Urddaholics lleol ar daith i Wlad Pwyl ar brofiad gwaith gwirfoddol.
Dros y flwyddyn ddiwethaf bu'r disgyblion yn brysur yn codi arian - fan leiaf £500 yr un - er mwyn mynd ar brosiect sy'n digwydd bob yn ail flwyddyn, sef ymweld â chartrefi plant yng Ngwlad Pwyl. Y tro hwn ymwelwyd â Legnica a Swidnica.

Nod y daith oedd gwella safonau byw y plant drwy brynu anrhegion iddynt ac addurno eu hystafelloedd, yn ogystal â chanu llawer o ganeuon Cymraeg a mwynhau dawns Mistar Urdd! Mae'r arian a gasglodd y myfyrwyr, drwy gig yng Nghaerdydd a llawer o gerdded, dawnsio a nofio noddedig hefyd yn bwriadu mynd tuag at gynnal taith i'r plant hyn yn y cartrefi i Langrannog yn haf 2007.

Roedd y daith yn un hynod lwyddiannus, gydag ambell daith i IKEA i chwilio am ddeunyddiau addurno a dodrefnu, ac fe welwyd newid arbennig o bositif yn Legnica a Swidnica. Roedd yn anodd ffarwelio â Phwyl ar ôl cael cymaint o groeso am yr wythnos, ac rwy'n gwybod fod yr Urddaholics yn edrych ymlaen at yr haf nesaf yn barod a'r wythnos yn Llangrannog!

Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a gyfrannodd at y daith, ac a alluogodd i ni wneud gwahaniaeth bychan i fywydau plant amddifad yng Ngwlad Pwyl.
Elinor Davies Blwyddyn 13

  • Helpu yng Ngwlad Pwyl - Erthygl Bethan Rowe, Blwyddyn 13, Ysgol Gyfun Bro Morgannwg

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C20
    Pobol y Cwm0
    Learn Welsh0
    BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy