Trac yr Wythnos: Band Pres Llareggub – Gweld Y Byd Mewn Lliw
Trac yr wythnos yw Gweld Y Byd Mewn Lliw gan Fand Pres Llareggub
Dyma un o'r caneuon o albwm newydd Band Pres Llareggub "Kurn" sydd allan ers dechrau mis Gorffennaf 2016.
Yn ymddangos ar y gân mae Ed Holden / Mr Phormula, ac Alys Williams.
Fe gafodd yr albwm ei recordio yn stiwdio Orange Sound ym Mhenmaenmawr, ac mae'r gwaith celf gan Gethin Wyn Jones, sydd wedi gweithio hefo Damien Hirst
Fe ffurfiwyd Band Pres Llareggub ym mis Hydref 2014 gan Owain Roberts, cerddor sy'n byw yn Llundain.
Fe ddechreuodd fel prosiect stiwdio unigol, gyda Owain yn chwarae a recordio pob offeryn, ond erbyn hyn mae'r Band Pres yn fand "go iawn" sy'n gigio a recordio gyda'u gilydd.
Mae'r aelodau yn cynnwys Gethin Evans (Genod Droog), Berwyn Jones (Derwyddon Dr Gonzo), Bari Gwiliam ac Owain Arwel Davies.
Mae'n nhw wedi rhyddhau un EP o'r "Bradwr" ac hefyd fersiwn unigryw y band o albym y Super Furry Animals - Mwng.
Mae'n nhw'n fand gwych yn fyw, ac wedi perfformio mewn gwyliau fel Gwyl Rhif6, Tafwyl, Gwyl Cefni, a Gwyl Nol a Mlaen. Nhw fydd yn "headline-io" nos Sadwrn Maes-B yn Steddfod y Feni eleni.
Trac yr Wythnos: Band Pres Llareggub – Ysbeidiau Heulog
Mae Band Pres Llareggub yn griw o gerddorion gwych sy’n perfformio caneuon adnabyddus a chaneuon gwreiddiol newydd mewn arddull ffync gyda ’chydig o ddylanwad New Orleans!

Owain Roberts, cerddor o Fangor sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, sy’n gyfrifol am greu Band Pres Llareggub, ac mae’r band yn cynnwys rhai enwau cyfarwydd – Gethin Evans o’r Genod Droog, Bari Gwilliam o Anweledig a Berwyn Jones o Derwyddon Dr Gonzo.
Maen nhw eisoes wedi rhyddhau EP “Bradwr” yn mid Medi, a bydd eu fersiwn nhw o’r albwm Mwng ar gael ar Hydref 10fed ar feinyl ac yn ddigidol.
Ar gyfer yr albwm “Mwng”, mae Band Pres Llareggub wedi ail-recordio fersiynau’r band o bob un trac o’r albym gan y Super Furries. Mae’n cynnwys cyfraniadau gan Mr Phormula, Gwyllt, Lisa Jên, Mirain Haf, John Ogwen a Chôr y Penrhyn.
Dolenni
















































