Main content

Trac Yr Wythnos: Calfari - Cuddio

Dyma gân newydd sbon Calfari, sy’n ragflas o’u albwm fydd allan mis Mawrth

Dyma gân newydd sbon Calfari, sy’n ragflas o’u albwm fydd allan mis Mawrth.

Unwaith eto mae’r grwp o Sir Fôn wedi bod yn stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth yn recordio hefo’r cynhyrchydd Rich Roberts.

Hon fydd albwm gynta’ Calfari, yn dilyn rhyddhau 2 EP sef Tân eleni a Nol Ac Ymlaen yn 2015.

Mae gan y band cwpl o gigs ar y gweill; nos Sadwrn yma (Hydref 15fed) yng Ngharreg Bran, Llanfairpwll a car Dachwedd 18fed yn Neuadd y Farchnad Caernarfon hefo Candelas

Dilynwch y band ar Twitter: https://twitter.com/calfari1
Gwrandewch ar y gerddoriaeth: https://soundcloud.com/calfariband

Dyma'r sengl gyntaf o EP newydd y band, fydd allan yn fuan.

Cafodd yr EP ei recordio yn stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth - stiwdio bandiau fel Swnami, Yr Eira a Fleur De Lys.

Fe fydd sesiwn byw gan y band ar raglen Dylan Jones ddechrau Chwefror.

Calfari - Rhydd

Ers ffurfio yn Hydref 2014, mae'r band yma o ardal Ynys Môn a Bangor, wedi datblygu'r ddawn i gyfansoddi anthemau roc Cymraeg.

Y 6 aelod ydi - Bryn Hughes Williams, Elin Angharad Williams (enillydd Can i Gymru 2015 efo'r gan Y Lleuad a'r Sêr), Rhys Edwards, Gavin Malone, Tomos Gashe, Dave Woodhouse.

Am fwy o wybodaeth:

Youtube - Calfari

Soundcloud Calfari

Twitter Calfari