Main content

Chwalfa - Disgwyl am y wawr

Dyma sengl newydd y band ifanc o Fangor.

Dyma sengl newydd y band ifanc o Fangor, sydd allan yn ddigidol ers dechrau’r mis (i-tunes a Spotify).

Fe gafodd y gan ei recordio mewn stiwdio ym Mhenmaenawr hefo’r cynhyrchydd Russ Hayes sydd wedi gweithio hefo Catfish And The Bottlemen!

Mae’n nhw wrthi’n recordio mwy o ganeuon fydd allan yn ystod yr wythnosau nesa.

Aelodau’r grwp yw Guto Evans, Caleb Rhys, Elis Derbyshire a Tomos Morris-Jones, ac ym mis Medi 2015 fe ddaeth yr EP gynta “Byw” allan.

Mae ganddynt ddwsin o gigs wedi eu trefnu ar gyfer yr wythnosau nesa, gan gynnwys gig nos Sadwrn yng Nghlwb Pêl-droed Gaerwen hefo Bryn Fon, Calfari a Fleur De Lys.

Mae’n nhw hefyd yn canu ar Lwyfan Perfformio yr Urdd am 1pm ar bnawn Sadwrn 04 Mehefin

Dilynwch Chwalfa ar Twitter: @chwalfa