Main content
Emyr Huws Jones - Perthyn
Mae Emyr Huws Jones yn un o’n cerddorion / cyfansoddwyr mwyaf dylanwadol.
Mae Emyr Huws Jones yn un o'n cerddorion/cyfansoddwyr mwyaf dylanwadol.

Yn gyn-aelod o Tebot Piws a Mynediad Am Ddim, mae "Ems" hefyd wedi cyfansoddi rhai o ganeuon enwocaf Bryn Fon fel 'Cofio Dy Wyneb' a 'Rebel Wicend'.
Mae o hefyd wedi cyfansoddi caneuon ar gyfer nifer o artistiaid eraill fel Brigyn, Plethyn a John Ac Alun.
Mae'r gân 'Perthyn' ar yr albwm newydd o'r un enw fydd allan ar Chwefror 15fed.
Cafodd yr albwm ei chynhyrchu gan Tudur Morgan (Mojo).
















































