Main content
Clwb Cariadon - Arwyddion
Ffurfiwyd Clwb Cariadon yn arbennig ar gyfer rhaglen Sesiwn Unnos Radio Cymru.
Dyma un o'r caneuon o albwm aml-gyfrannog ddaeth allan ar 22/07 i ddathlu penblwydd label i-ka-ching yn 5 oed.

Fe ffurfiwyd Clwb Cariadon yn arbennig ar gyfer rhaglen Sesiwn Unnos Radio Cymru, a'r aelodau ydy Owain Llwyd (oedd yn gyfrifol am arwain cerddorfa Welsh Pops nos Iau Steddfod!), Ifan Davies a Gruff Jones o Swnami, Guto Howells o Yr Eira, y cyfansoddwr Gethin Griffiths a Casi Wyn.
Recordiwyd y sengl yma yn stiwdio Monnow Valley, stiwdio sydd wedi recordio artistiaid fel Oasis, Black Sabbath, Pulp, Stereophonics a mwy.
Dilynwch ar Twitter: @IKACHINGrecords
















































