Main content

Gwerinos - Hogia Ni

Bydd holl elw’r trac yn mynd at yr Elusen Gôl.

Mae’r fersiwn newydd o gân Gwerinos allan ers pythefnos. (Mawrth 14eg)
“Fues i’n ddigon ffodus i gael dilyn Cymru i’r rhan fwyaf o’r gemau rhagbrofol a hynny wedi oes o siom yn dilyn Cymru,” meddai Ywain Myfyr aelod o’r grŵp. “Wedi gweld Cymru’n curo Israel ro’n i’n teimlo reit hyderus bod ni’n mynd i gyrraedd Ffrainc, a thra’n eistedd ar y traeth allan yn Hafia death y syniad.”

Mae Hogia Ni wedi bod yn ran boblogaidd o set fyw y band, ac addasiad o’r gân honno yw’r trac newydd.

Cafodd Gwerinos gymorth o sawl lle wrth roi’r traciau at ei gilydd yn Stiwdio Sain yn ystod mis Ionawr. Mae Yws Gwynedd yn canu un bennill ar y traciau a cheir lleisiau soniarus criw Ar Y Marc, BBC Radio Cymru yn gymorth yn y gytgan. Ychwanegwyd seiniau offerynnau prês gan aelodau o Fand Prês Deiniolen. Daeth syniad y clawr oddi ar un o grysau T ‘Spirit of 58’ o’r Bala sy’n arbennigo ar ddylunio dillad i gefnogwyr pêl droed Cymru.

Bydd holl elw’r traciau yn mynd i’r Elusen Gôl, elusen a sefydlwyd gan gefnogwyr Cymru ac sy’n mynd a rhoddion i blant dan anfantais yn y gwledydd tramor y bydd Cymru yn ymweld â hwy. Mae’r traciau felly yn gywaith go iawn o sawl agwedd o bêl droed yng Nghymru a’r gobaith ydy y clywir y gân yn cael ei bloeddio yn Ffrainc dros yr haf.

Fideo: Gwerinos - Hogia Ni