Trac Yr Wythnos - Fleur De Lys
Dyma sengl ddiweddaraf y band ifanc yma o Sir Fon. Yr aelodau ydi Ianto, Huw, Siôn a Rhys.
Fleur De Lys - Paent
Mae Fleur De Lys y fand ifanc o Sîr Fôn gafodd gryn lwyddiant y llynedd gan gyrraedd rhestr fer Band Newydd Y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Selar, a rhif 23 yn Siart Fawr Yr Haf Radio Cymru efo’r gân Haf 2013.
Ers ffurfio yn niwedd 2013, mae’n nhw wedi rhyddhau’r sengl “Difaru Dim Byd” a’r EP “Bywyd Braf”, ddaeth allan union flwyddyn yn ôl. Mae’n nhw’n gobeithio recordio eu albwm cyntaf eleni.
Fe gafodd y gân Paent ei rhyddhau ddechrau Rhagfyr ac mae sgwrs y band hefo Ifan Evans am y gân dal ar gael ar wefan C2.
Fleur de Lys - Ennill
Fe ffurfiodd y grŵp tua dwy flynedd yn ôl, ac er mai o Sir Fon y mae nhw’n dod yn wreiddiol, mae nhw ar wasgar braidd ar hyn o bryd, efo Ianto ym Mhrifysgol Caerdydd, Rhys a Huw ym Mangor, a Sion dal yn y 6ed dosbarth.

Mae'r band yn bwriadu parhau i fynd i mewn i'r stiwdio gan ryddhau sengl arall yn ystod yr haf ac ella mwy erbyn y Nadolig!
Mae ganddynt ddwy gig ar Ddydd Sadwrn yr 20fed o Fehefin: yn ystod y dydd am 2:45pm, set draw yn Llanberis yn yr Heights fel rhan o Snowdon Rocks 2015, ac yn y nos mi fyddant draw yn Nhafarn y Tŷ Gwyn am 9 hefo cefnogaeth gan Cordia ar ddiwrnod Carnifal Llanfair PG.
















































