Main content

Shan Cothi ac Andres Evans - Calon Lan

Shan Cothi yng Nghaerdydd ac Andres Evans yn yr Ariannin yn torri record byd am y pellter mwyaf rhwng pobl yn canu deuawd.

Dyma'r ymgais ar Radio Cymru i osod record byd am "Y pellter mwyaf rhwng pobol yn canu deuawd".

Mae’n ddigwyddiad sy’n cyfuno'r dathliadau eleni i nodi 150 mlynedd ers sefydlu cymuned Gymraeg, Y Wladfa, ym Mhatagonia ym 1865, a Diwrnod Cerddoriaeth y BBC (5ed o Fehefin). Dyma'r tro cyntaf i'r BBC gynnal diwrnod o'r fath, a bydd cynnwys i adlewyrchu hyn ar draws y dydd ar Radio Cymru.

Yn ymuno efo Shân Cothi yn Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC dan arweiniad John Quirk a chôr unedig fydd yn cynnwys aelodau o wahanol gorau sef Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Côr CF1, côr staff Radio Cymru a Chorws Only Kids Aloud Canolfan Mileniwm Cymru 2015/16.

Yn ymuno efo Andres Evans ym Mhatagonia mae aelodau o Gôr Ysgol Gerdd y Gaiman.