Trac yr Wythnos: Côr Glanaethwy - Haleliwia
Dyma gân o CD newydd y côr – Haleliwia.
Fe gafodd y CD ei recordio yn ystod yr haf a’r hydref hefo’r 160 o aelodau yn ymgynull yn Ysgol Brynrefail i recordio dros ddau ddiwrnod, ac yna ambell i sesiwn yn stiwdio Sain, Llandwrog. Fel rhan o ddathliadau'r ysgol yn 25 yn 2015, fe aeth Côr Glanaethwy ar daith i Batagonia, cystadlu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a Choir of the Year ac ar y gyfres Britain's Got Talent.
Wedi eu llwyddiant ar Britain's Got Talent fe gafodd y côr dros ugain miliwn o wylwyr ar youtube! Yn y flwyddyn newydd bydd aelodau'r côr yn teithio i Efrog Newydd i berfformio 'Cantata Memoria' gan Karl Jenkins yn y Carnegie Hall!
Ers ei sefydlu yn 1990 mae Ysgol Glanaethwy wedi rhyddhau saith albym o ganeuon, wedi cynnal miloedd o gyngherddau a sioeau, wedi teithio ledled y byd yn cystadlu a diddanu o Tsieina i Fwlgaria, o’r Eidal i Hwngari ac o’r Swistir i’r Weriniaeth Tsiec.
Dilynwch nhw ar Twitter ac mae’r CD newydd ar gael o'u gwefan.
















































