Main content
Moniars a Colin Roberts - Er Mwyn I Ti Ngharu I
Daw'r gân o albwm newydd y Moniars "Cyn I'r Haul Fynd I Lawr".
Daw'r gân o albwm newydd y Moniars "Cyn I'r Haul Fynd I Lawr".
Mae'n fersiwn o gân Bob Dylan "Make You Feel My Love" o 1997 - ond efallai mai fersiwn Adele o 2008 sydd fwyaf adnabyddus erbyn hyn. Mae'r geiriau Cymraeg gan Arfon Wyn.
Mae nifer o artistiaid gwadd yn ymddangos ar yr albwm newydd, yn cynnwys Elin Angharad a Bryn Hughes Williams (Calfari).
Mae'r CD hefyd yn cynnwys dwy gân "Cân I Gymru" - "Galw Amdanat Ti" a "Y Lleuad A'r Sêr".
Bydd elw'r albwm yn mynd tuag at elusen "Ymchwil Arennau UK".
Gallwch eu dilyn ar Facebook: facebook.com/moniars.moniars
















































