Main content
Bedwyr Morgan - Ti Yw Yr Un
Dyma sengl ddiweddaraf Bedwyr Morgan.
Dyma sengl ddiweddaraf Bedwyr Morgan sef canwr a gitartydd y grwp o Sir Fôn - Mojo.

Fe recordiwyd y gân gan Rhys Jones, sydd hefyd yn aelod o Terfysg a Cordia – enillwyr Can I Gymru eleni.
Mae brawd Bedwyr a’i gyd-aelod o Mojo Tudur Morgan yn perfformio ar y recordiad, ac mae cerddor o Gernyw, Richie Peters wedi cyfrannu darn gitâr i’r gân – gwrandewch ar y diweddglo i’w glywed!
Mae Bedwyr wedi bod yn y stiwdio yn ystod yr wythnos dwytha’ yn recordio mwy o ganeuon, a bydd y Ti Yw Yr Un ar gael ar EP newydd Bedwyr fydd allan yn fuan.
Mae Mojo hefyd wrthi’n sgwennu caneuon newydd.
Soundcloud: Bedwyr Morgan
Twitter:Bedwyr Morgan
















































