Main content

Siân Richards - Tywyllwch Ddu

Merch o Abertawe ydi Siân Richards.

Merch 19 oed o Abertawe ydi Sian Richards, ac er ei bod wedi rhyddhau EP Saesneg o’r enw "Where Do We Go From Here", Tywyllwch Ddu ydi’r gan Gymraeg gyntaf iddi ysgrifennu a recordio.

Cyfansoddodd y gan wedi marwolaeth ei mamgu fis Gorffennaf diwethaf.

Mi fydd Sian yn perfformio yng Ngwyl Kaya ym Mharc Margam ym mis Awst.

Gwefan Sian Richards