Trac Yr Wythnos: Bwncath - Yr Ofn
Aelodau Bwncath ydi Elidyr Glyn a Meredydd Wyn Humphries.
Bwncath ydy grwp Elidyr Glyn a Meredydd Wyn.
Mae’r gwp yn bodoli ers mis Mawrth 2015, ond mae’r ddau wedi “jamio” ers blynyddoedd pan yn y coleg.
Elidyr oedd enillydd cyntaf Twls Alun Sbardun Huws, a hynny yn ‘Steddfod Y Fenni.
Y beirniaid oedd Emyr Huws Jones a Bryn Fon! Mae Elidyr hefyd yn canu yn fyw hefo Gwilym Bowen Rhys.
Bu Elidyr a Gwilym ar daith tramor hefo dros yr haf – yn ymweld a Gwlad y Basg a Galicia gan chwarae mewn gwyliau gwerinol, ac yn fwy diweddar bu’r ddau yn canu Plygain o gwmpas Cymru.
Fe recordiwyd y gân yma yn stiwdio Sain, ei chynhyrchu gan Robin Llwyd Jones o’r Bandana, a’i darlledu fel rhan o Sesiwn Sbardun ar raglen Lisa Gwilym.
Mae fideo o fersiwn wych Elidyr o Coedwig Ar Dân ar Facebook Radio Cymru. Mae albwm ar y gweill gan y grwp, a gobeithio bydd allan cyn yr haf.
Dilynwch Bwncath ar Twitter: @bwncathband
Gwefan y grwp: https://soundcloud.com/bwncath
Bwncath - Barti Ddu
Aelodau Bwncath ydi Elidyr Glyn a Meredydd Wyn Humphries. Aeth y ddau i Ysgol Syr Huw Owen, Caernarfon gyda'i gilydd, ac mae'r ddau newydd raddio o Brifysgol Bangor. Bu'r ddau'n cyfansoddi efo'i gilydd ers blynyddoedd, ond dim ond ers dechrau'r flwyddyn maent wedi troi eu llaw at recordio.

Recordiwyd "Barti Ddu", yn Stiwdio Acapela efo Robin Llwyd (Y Bandana) yn cynhyrchu, ac mae trac arall, "Lawr y Ffordd", wedi ei recordio a bydd honno ar gael i'w chwarae yn ystod yr wythnosau nesaf. Y gobaith ydi dychwelyd i'r stiwdio ddiwedd y mis, a rhyddhau e.p. yn ystod yr haf.
Mae Robin Llwyd, ynghyd a Gwilym Bowen Rhys (Y Bandana) ac Arron Hughes (Stalking Hawks) yn ymuno efo'r band i berfformio yn fyw, a bydd gig yn Stiwdio Acapela efo Cowbois Rhos Botwnnog ar y 30ain o Fai.
Bydd mwy o gigs yn cael eu cyhoeddi yn fuan.
















































