Main content

Danielle Lewis - Breuddwyd Yn Tyfu

Trac yr wythnos gan gantores ifanc o orllewin Cymru.

Mae Danielle yn byw yng Nghaerdydd, ond yn wreiddiol o'r Cei Newydd, Ceredigion.

Mae hi'n un o artistiaid Gorwleion eleni a dyma'r sengl gynta' o'i EP newydd. Bydd y sengl allan yn ddigidol ar Ebrill 11eg, a bydd holl elw'r sengl yn mynd tuag elusen Apêl Arch Noah.

Fe gafodd Danielle ofal hynod yn Ysbyty'r Waun, Caerdydd ar ôl iddi gael ei geni 3 mis yn gynnar ac felly mae'n awyddus iawn i gefnogi'r elusen a gwasanaethau iechyd plant y ddinas.

Mae Danielle wedi rhyddhau 2 EP yn barod, ac fe gewch ei holl hanes mewn rhaglen arbennig ar Radio Cymru.

Mi fydd Danielle yn chwarae yng Ngwyl Rhif 6, Gwyl Truck a X-Festival yr haf yma.

Mwy o Danielle Lewis