Main content
Trac yr Wythnos: Bromas - Siarad Mân
Dyma ganeuon cynta’r band ers yr albwm ‘Codi’n Fore’.
Dyma gân newydd gan Bromas, o’r EP newydd “Cefn y Grug” sydd allan yn ddigidol ddydd Gwener.

"Cefn y Grug" ydy enw cartref teulu ffrind da i’r band, Gwenno Jones, sydd wedi gadael iddyn nhw ymarfer mewn bwthyn wrth ymyl y ty.
Dyma ganeuon cynta’r band ers yr albwm ‘Codi’n Fore’ ddaeth allan ddwy flynedd yn ol.
Fe ddaeth albwm gynta’r band “Byr Dymor” allan yn 2013.
Fe gafodd yr EP ei recordio yn stiwdio Sonic One yn Llangennech hefo’r cynhyrchydd Tim Hamil, sydd hefyd wedi recordio caneuon Fflur Dafydd.
Mi fydd hi’n cael ei rhyddhau ar label Rasp.
Dilynwch ar Twitter: @bromasband
Mwy o wybodaeth ar Facebook: facebook.com/bandbromas
















































