Trac Yr Wythnos: Swnami - Breuddwyd Brau
Trac Yr Wythnos yw Breuddwyd Brau gan Sŵnami.
Swnami - Breuddwyd Brau
Dyma gân newydd gan Swnami, fydd yn cael ei rhyddhau ar albwm aml-gyfrannog yn dathlu penblwydd label i-ka-ching yn 5 oed.
Mae’r albwm yn cael ei ryddhau ar Orffennaf 22ain, ac mae ‘na gig lansio fawr yn Pontio, Bangor ar Orffennaf 23ain, lle bydd Yr Ods, Swnami, Yr Eira, Candelas a llawer mwy yn perfformio.
Mae’r albwm yn cynnwys trac gan bob artist sydd wedi ymwneud a’r label yn ystod y 5 mlynedd – yn cynnwys Texas Radio Band, Y Reu, Huw M.
Mae’r albwm hefyd yn cynnwys cân gan Clwb Cariadon – y grwp ffurfiwyd ar gyfer Sesiwn Unnos Radio Cymru!
Fe gafodd Swnami noson lwyddianus iawn yng Ngwobrau’r Selar, gan gipio gwobrau Cân Y Flwyddyn, Gwaith Celf Gorau, Band Gorau a Record Hir Orau!
Fe allwch glywed perfformiad byw Swnami, a holl uchafbwyntiau’r noson mewn rhaglen arbennig nos Fercher am 7pm hefo Huw Stephens a Lisa Gwilym. Mae Trwmgwsg (Cân Y Flwyddyn) yn un o’r caneuon o albwm gyntaf Swnami (sef y Record Hir Orau) gafodd ei rhyddhau ym mis Awst llynedd ar label i-ka-ching.
Bydd Swnami yn perfformio yn Galeri, Caernarfon nos Fercher, Mawrth 2il. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol hefyd newydd gyhoeddi bydd Swnami, yr Ods a Candelas yn perfformio hefo cerddorfa y Welsh Pops Orchestra yn y Pafiliwn ar nos Iau Steddfod Y Feni.
Dilynwch Swnami ar Twitter @swnami_
Gwefan Swnami: http://www.swnami.com/
Trac Yr Wythnos: Swnami - Llwybrau
Daw'r trac o'r rhaglen C2: Pop Perffaith, fydd wedi ei darlledu y nos Iau blaenorol, 2il o Ebrill am 9pm. Yn y rhaglen bydd Rhydian Bowen Phillips yn ystyried pa elfennau sydd eu hangen i gynhyrchu caneuon pop perffaith.

Wedi blwyddyn brysur iawn i Sŵnami fel un o fandiau Gorwelion, bydd y gan yma yn 'Trac yr Wythnos', yn ystod yr wythnos mae 12 artist Gorwelion 2015 yn cael eu cyhoeddi.
BBC Gorwelion: Swnami
Sŵnami at Eurosonic Festival
Galleries
Dolenni perthnasol




















































