Main content

Mei Gwynedd - Pethau Bychain

Fe gafodd y gân ei recordio mewn cyfres o weithdai ar hyd a lled Cymru hefo pobol ifanc yn chwarae’r darnau offerynnol.

Mae Mei Gwynedd yn un o’n cerddorion a chynhyrchwyr mwyaf profiadol.

Yn gyn aelod o Big Leaves, Sibrydion ac Endaf Gremlin, mae Mei hefyd yn gynhyrchydd o fri, ac wedi cyd-weithio hefo bandiau ifanc fel Breichiau Hir, Hyll a Rifleros yn ddiweddar.

Ers haf 2015, mae Mei wedi bod ar daith yn ysgrifennu, perfformio a recordio cân ar gyfer yr ymgyrch iaith "Pethau Bychain".

Fe gafodd y gân ei recordio mewn cyfres o weithdai ar hyd a lled Cymru hefo pobol ifanc yn chwarae’r darnau offerynnol - o ddrymiau a bas yn Llangefni i gôr yng Nghrymych.

Mi fydd y gân ar gael ar Spotify, Deezer, iTunes a Apple Music.

Dilynwch @cymraeg ar Twitter

Mwy o wybodaeth am yr ymgyrch