Main content

Jamie Smith’s Mabon – Yr Ennyd

Dyma gân o albwm newydd Jamie Smith’s Mabon “The Space Between”.

Dyma gân o albwm newydd Jamie Smith’s Mabon "The Space Between" sydd allan ar Ionawr 8fed 2016, ond ar gael i’w rhag-archebu rwan o jamiesmithsmabon.com.

Mae’r albwm yn cynnwys tonau a dylanwadau cerddoriaeth draddodiadol y gwledydd Celtaidd.

Mae geiriau’r gân “Yr Ennyd” gan Iolo Whelan, yr alaw gan Jamie Smith a threfnwyd y gân ar y cyd gan y grwp.

Mae ‘na ymddangosiad gan gerddor gwadd hefyd ar y trac – Dylan Fowler ar "Lap Steel".

Mi fydd gan y grwp ugain cyngerdd ym mis Chwefror a Mawrth i hyrwyddi’r albwm, yn cynnwys gigs yn Galeri Cernarfon, Theatr Felinfach, Gwyl Cwlwm Celtaidd Porthcawl, a gig yng Nhroesoswallt.

Aelodau'r band yw:
Jamie Smith (acordion a llais)
Oliver Wilson-Dickson (ffidl)
Adam Rhodes (bouzouki)
Matt Downer (bas)
Iolo Whelan (drymiau)

Gallwch eu dilyn ar Twitter: @jsmabon

I glywed mwy o ganeuon Mabon: www.jamiesmithsmabon.com