Cowbois Rhos Botwnnog - Lle’r Awn I Godi Hiraeth?
Bydd albwm newydd ‘Cowbois Rhos Botwnnog – IV’ yn cael ei chyhoeddi ar label Sbrigyn
Bydd albwm newydd 'Cowbois Rhos Botwnnog – IV' yn cael ei chyhoeddi ar label Sbrigyn.

Dyma’r bedwerydd albwm i’r band ei ryddhau. Yn ffrwyth dwy flynedd o lafur, mae IV yn nodi'r tro cyntaf i'r band gymeryd yr awenau peiriannu a chynhyrchu eu hunain.
Maent unwaith eto yn ailymuno ag Euron Jones, Llyr Pari a Branwen Williams, y band a fu'n rhan o'r ddwy record flaneorol (Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn a Draw Dros y Mynydd) ond y tro yma maent yn arwain y sesiynnau i dir newydd.
Iwan sydd wedi sgwennu pob un o’r caneuon ar yr albwm yma ac mae rhai o’r caneuon yma wedi bod ym mhen Iwan ers blynyddoedd.
Mae rhai o’r caneuon wedi ei hanner dechrau ers amser maith, ac wedi penderfynu eu gorffen o’r diwedd. Mae eraill wedi ei ysgrifennu yn syth cyn, neu yn ystod y cyfnod recordio.
Roedd creu'r albwm yma yn brofiad gwahanol iawn i recordio’r rhai diwethaf. “Roeddem ni eisiau gwneud popeth ein hunain tro 'ma, fel bod dim pwysau arnom i neud unrhyw beth mewn amser arbennig.
Roeddem ni eisiau amser i allu gweithio ar yr albwm mewn rhannau penodol, gan alluogi ni ddod 'nôl at bethau ac edrych ar bethau eto mewn amser. Wrth edrych nôl ar y cyfnod o ddwy flynedd o recordio’r albwm yma, mae’n ddifyr gweld sut yr ydym ni fel unigolion wedi datblygu, mae rhywbeth cynnar a recordiwyd yn swnio’n dra gwahanol i un o’r pethau olaf.
Mewn gwirionedd, roedd o’n braf cael mynd nôl a blaen i'r stiwdio dros gyfnod gyda gweledigaethau newydd am yr hyn yr oeddem ni eisiau ei greu!"
Recordiwyd y rhan helaeth o’r albwm yma yn stiwdio Tŷ Siamas yn Nolgellau, gyda pheth recordio yn Stiwdio Sain yn Llandwrog ac wrth gwrs adref yn y stiwdio fach yn y tŷ sydd gan Aled. Aled oedd yn gyfrifol am beiriannu’r holl waith.
Aelodau'r band:
Iwan Hughes, Dafydd Hughes, Aled Hughes, Llyr Pari, Branwen Williams, Osian Williams ac Euron Jones
Gigs 2016:
24/03 – Clwb Canol Dre, Caernarfon
25/03 – Lloft, Fic, Llythfaen
25/03 – Y Parrot, Caerfyrddin
16/04 – Neuadd Buddug, Bala
22/04 – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
23/04 – Glyn Ceiriog
















































