Main content

Adran D – Deio'r Glyn

Pedair mlynedd wedi iddynt ryddhau eu halbwm gyntaf, The Ascent (a ddisgrifwyd gan gylchgrawn R2 fel “the folk fusion record to end them all”), mae Adran D yn eu hôl gyda’u hail albwm, Ffiniau.

Pedair mlynedd wedi iddynt ryddhau eu halbwm gyntaf, The Ascent (a ddisgrifwyd gan gylchgrawn R2 fel “the folk fusion record to end them all”), mae Adran D yn eu hôl gyda’u hail albwm, Ffiniau.

Deg trac, wedi’u hysbrydoli gan ganeuon traddodiadol Cymreig, wedi’u hail ddychmygu ar gyfer yr 21ain ganrif, fydd yn cael eu rhyddhau’n unigol ar-lein ac am ddim bob pythefnos o Ionawr 2015, gan arwain at ryddhau CD cyflawn ym Mai 2015. Mae Deio’r Glyn yn un o’r traciau fydd yn ymddangos ar Ffiniau.

Grŵp o gerddorion proffesiynol wedi eu lleoli yng Nghaerdydd ydi Adran D, er fod yr aelodau yn hanu o Aberystwyth, Dinbych, Llangadfan ac Abertawe.

Yr aelodau craidd ydi, Lynwen Haf Roberts (llais), Rhys Taylor (saxophone), Aled Owen (gitar), Dave Danford (gitâr fas) ac Alun Hathaway (drymiau). Ond mae nhw hefyd yn cael eu cynorthwyo’n achlysurol gan Patrick Rimes, Mirain Evans, Angharad Jenkins, Bethan Rhiannon, Sam Humphreys a Pablo Roberts.

Yn y gorffennol mae nhw wedi perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau, yr Eisteddfod Genedlaethol a seremoni agoriadol Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen.

Gwefan: Adran D

Soundcloud: Adran D