Main content
Trac Yr Wythnos - Sophie Jayne - Gweld Yn Glir
Sengl gyntaf cantores ifanc , 18 oed o Fodedern, Ynys Mon.
Sengl gyntaf cantores ifanc , 18 oed o Fodedern, Ynys Mon.

Er i Sophie ganu mewn eisteddfodau pan yn ferch ifanc, nid oedd ganddi fawr o hyder. Yna, mis Medi llynedd, wedi derbyn gwahoddiad i ganu mewn cyngerdd gan ei ffrind Beth Frazer, fe'i gwelwyd hi gan y cerddor Alistair James.
Fe gymerodd Alistair hi o dan ei adain, gweithio gyda hi, a'i mentora. Alistair gyfansoddodd yr ail gan ar y sengl sef "Einioes Mewn Eiliad", er mai cyfansoddiad Sophie ei hun ydi "Gweld yn Glir".
Ar hyn o bryd mae Sophie yn astudio Lefel A mewn Mathemateg, Addysg Grefyddol a Saesneg yn Ysgol Uwchradd Bodedern, ac yn gobeithio astudio Addysg Gynradd ym Mangor flwyddyn nesaf.
















































