Main content

Trac Yr Wythnos: Artistiaid Amrywiol - Hawl i Fyw

Mae cân yr ymgyrch Hawl i Fyw yn cael ei rhyddhau yn swyddogol ar ddydd Iau 16 Ebrill 2015 ac ar gael i lawrlwytho ar iTunes.

Mae cân yr ymgyrch Hawl i Fyw yn cael ei rhyddhau yn swyddogol ar ddydd Iau 16 Ebrill 2015 ac ar gael i lawrlwytho ar iTunes.

Yn dilyn cefnogaeth o bob rhan o Gymru, daeth rhai o'r enwau mwyaf yng ngherddoriaeth Cymru at eu gilydd i ail recordio’r glasur Hawl I Fyw gan Dafydd Iwan yn Stiwdios Recordio Sain yn Llandwrog ger Caernarfon wythnos diwethaf.

Ochr yn ochr â Dafydd Iwan ei hun mae artistiaid adnabyddus fel Bryn Fôn, Rhys Meirion, Elin Fflur, Caryl Parry Jones, Yws Gwynedd, Gwyneth Glyn, Gwilym Bowen Rhys, Meinir Gwilym, Iwan Cowbois Rhos Botwnnog, Lisa Jên, John ac Alun, Trio, Alys Williams, Arfon Wyn, Sera Louise, Dylan a Neil, Casi Wyn, Côr y Brythoniaid a Hogia’r Wyddfa yn canu.

Y cerddorion ar y trac ydi Charli Britton, Hefin Elis, Pwyll ap Sion a Wyn Pearson.

Mae #HawliFyw yn ymgyrch gadarnhaol sydd wedi cael ei ysbrydoli gan stori Irfon Williams, y tad 44 oed o Fangor, Gwynedd sydd ar hyn o bryd yn cael triniaeth ar gyfer canser y coluddyn.

Mwy o wybodaeth ar wefan y Daily Post (Cynnwys Saesneg)