Alistair James - Grym Y Gân
Dyma gân o albwm diweddar Alistair o’r un enw.
Dyma gân o albwm diweddar Alistair o’r un enw, ddaeth allan ym mis Gorffennaf ar label ‘Recordiau’r Llyn’.

Mae’n albwm arbennig sy'n dathlu 10 mlynedd o recordio, a 10 mlynedd ers rhyddhau ei albwm gyntaf yn 2006, sef 'Neith Digon Ddim Digoni'.
Mae’r caneuon wedi eu dylanwadu gan newidiadau mawr ym mywyd Alistair, gan iddo ddod yn dad am y tro cyntaf i ferch fach Siwan Haf ym mis Ionawr 2015!
Mae ‘Grym y Gân’ wedi ei ysbrydoli gan ei nain - “Mae’n son fod tuedd i atgofion bylu gydag amser, ond ar y llaw arall mae gan gerddoriaeth y pwer i aros yn glir yn y cof”.
Yn ymddangos ar yr albwm mae’r gitarydd Jamie Moses, sydd wedi recordio a theithio hefo artistiaid fel Queen, Tom Jones, U2, Gary Barlow a Lionel Ritchie.
Recordiwyd yr albwm yn stiwdio “Orange Sound” ym Mhenmaenmawr gan y cynhyrchydd Russ Hayes.
Am fwy o wybodaeth am gerddoriaeth Alistair: http://www.alistairjames.com
Dilynwch Alistair ar Twitter: https://twitter.com/AlistairJames09
















































