Super Furry Animals - Bing Bong
"Mae'r bêl fel picsel mewn gêm o Pong"
Dyma gyhoeddi mwy o fanylion sengl gyntaf, ynfyd hirfelyn tesog yr Anifeiliaid Anhygoel o Flewog ers saith mlynedd.
Bydd y sengl ei hun yn cael ei ryddhau ar ddydd Gwener, Mai 13eg 2016 ar recordiau Strangetown a bydd fersiwn 12 modfedd finyl ar gael yn ddiweddarach ar Fehefin 17.
Yn ôl Gruff Rhys: ''Mae'r gân wedi ei ysbrydoli gan gyfuniad o'r idiom werin Bing Bong, elfenau o gerddi byr fyfyr R.Williams Parry ac ynganu Twiki y robot o'r gyfres wyddonias Americanaidd Buck Rodgers in the 25th Century - nid cân synhwyrol mohono, ond dathliad lloerig.''
Ysgrifennwyd y gân yn wreiddiol ar gyfer dathlu campau tîm peldroed dynion Cymru yng nghwpan Ewrop UEFA ym Mhortugal yn 2004 ond chwalodd gôl Yegor Titov obeithion y Cymry, a chalonau'r Anifeiliaid Blewog yn y gemau ail-gyfle a bu'r gân yn trigo ers hynny yn nghrombil llychlyd archifdy'r grwp ymysg hen greiriau llwyfan, arwyddion neon diffygiol a chopïau caset o'r albwm Mwng.
Cynlluniwyd y clawr gân y dewin-ddarlunydd o Gaerdydd Pete Fowler.
Mae hôll aelodau y Super Furry Animals yn bresennol ar y recordiad:
Gruff Rhys (Allweddell Roland/llais digidol)
Huw ‘Bunf’ Bunford (gitar/llais),
Cian Ciarán (allweddellau/digidolyddion/llais),
Dafydd Ieuan (drymiau/llais)
Guto Pryce (Y Bâs).
Mwy o fanylion am gyngherddau ac ati: www.superfurry.com
















































