Main content

Trac yr Wythnos: Alun Tan Lan – Sut Wyt Ti’r Aur

Dyma gân newydd gan Alun, o albwm unigol newydd fydd allan yn fuan.

Mae’r gân yn son am un o gymeriadau Llanrwst, ac mae’r geiriau wedi eu sgwennu gan Myrddin Ap Dafydd. Yn ogystal â’r albwm unigol, mae Alun hefyd yn gweithio ar albwm newydd hefo’i grwp Y Niwl.

Yn wreiddiol o Bandy Tudur, hon fydd pumed albwm unigol Alun, yn dilyn Aderyn Papur, Y Distawrwydd, Yr Aflonydd a’r albwm ddwbl Cymylau. Yn ogystal â pherfformio hefo’r Niwl, mae Alun yn y gorffennol wedi bod yn aelod o fandiau Cerys Matthews, Euros Childs a Gruff Rhys!

Dilynwch Alun ar Twitter