Main content
Tecwyn Ifan - Ar Nos Oleua'r Byd
Carol newydd gan Tecwyn Ifan a Bardd y Mis Radio Cymru Aled Lewis Evans.
Cafodd y garol newydd sbon yma ei chyfansoddi yn arbennig ar gyfer rhaglen Dylan Jones gan Tecwyn Ifan a Bardd y Mis Radio Cymru Aled Lewis Evans.

Fe wnaeth Aled 'sgwennu'r geiriau, a'u gyrru at Tecwyn i gyfansoddi'r gerddoriaeth.
Yn ôl Aled, mae'r geiriau yn "glir, hapus a gorfoleddus" ac yn yn dweud hanes geni Crist.
Mae'r ddau yn gobeithio cyd-weithio eto yn y dyfodol.
















































