Main content
Trac Yr Wythnos - Rees
Seren Wen gan Rees yw trac yr wythnos (16/02/2015).
Dyma sengl gynta’r gantores ac actores Gemma Rees, a ddaeth i amlygrwydd yn gyntaf trwy chwarae rhan chwaer Ioan Gruffydd yn Pobol y Cwm.

Ers hynny mae hi wedi mynychu Coleg Cerdd a Drama, Caerdyd a’r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.
Mae'r sengl yn cael ei rhyddhau ddydd Llun (16/2/2015).
Cyd-gyfansoddwyd Seren Wen gan Gemma a Mark Rutherford, gwr sydd wedi gweithio efo artistiaid fel Peter Gabriel, William Orbit, Mike Oldfield, Steve Levine a Goldie yn y gorffennol.
Mae hi'n cael ei rhyddhau ar label newydd Gemma a Mark – Rees Records.
















































