Main content
Rhys Meirion a Côr Rhuthun - Nerth y Gân
Dyma sengl ymgyrch Cerddwn Ymlaen eleni.
Dyma sengl ymgyrch Cerddwn Ymlaen eleni – wrth iddynt baratoi i ymgymryd a Her Cylchdaith Cymru - http://cylchdaith.cymru/

Robat Arwyn a Tudur Dylan sydd wedi cyfansoddi’r gan, ac yn ymuno efo Rhys a’r Côr ar y trac mae...
Rhys Taylor ar y soprano sax, Annette Bryn Parry ar yr allweddellau, Graham Land ar y drymiau, a Robat Arwyn ei hun ar y piano.
Bydd y gan yn cael ei pherfformio’n fyw am y tro cyntaf yng Nghyngerdd Agoriadol Cylchdaith Cymru yn Theatr y Pafiliwn, Rhyl ar nos Wener y 3ydd o Orffennaf.
















































