Main content

Trac Yr Wythnos - Gildas - Nia

Y mae Gildas Music yn falch o gael cyhoeddi trydedd record hir Gildas, Paid â Deud.

Y mae Gildas Music yn falch o gael cyhoeddi trydedd record hir Gildas, Paid â Deud. Y mae bron i ddwy flynedd bellach ers rhyddhau yr ail, 'Sgwennu Stori', a lwyddodd i gyrraedd rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2014 ac ymddangos yn y 10 uchaf yn Albyms Y Selar 2013.

Arwel Lloyd yw 'Gildas', gyda Wal Coughlan ar y bas, Gareth Thorrington ar yr allweddellau a Tim Hamill yn cynhyrchu. Mae'r chwiorydd Greta a Miriam Isaac unwaith eto yn canu ar nifer o'r traciau gydag Angharad Brinn a Hanna Morgan yn ymddangos ar drac yr un.

Record hir o 'cyfyrs' yw hon, a threfniannau gitar cywrain Arwel Lloyd yw gwraidd yr arlwy. Clywir fersiynau newydd o ganeuon John Martyn a Linda Healy yn ogystal â fersiwn o'r gân 'Nia' o'r opera roc Nia Ben Aur. Ceir naws werinol ar draciau fel 'Paid â Deud' a 'The Fields of Athenry' gyda chrynswth offerynnol y traciau yn amrwd a byw. Ynghyd â gwaith celf unigryw Anna Gwenllian, mae hyn yn cynnig record ddwy-ieithog hir-ddisgwyliedig un o ganwyr-cyfansoddwyr mwyaf poblogaidd y byd roc, pop a gwerin yng Nghymru.

Bydd Gildas yn teithio i hyrwyddo'r albwm dros yr haf.

Twitter: Gildasmusic

Facebook Gildas

Soundcloud Gildas