Trac Yr Wythnos: Ani Glass - Ffôl
Ani Glass ydy prosiect newydd Ani Saunders.
Roedd Ani'n aelod o'r grwp The Pipettes gyda'i chwaer Gwenno Saunders, cyn ffurfio'r grwp pop The Lovely Wars.

Erbyn hyn, mae The Lovely Wars wedi dod i ben, ac Ani yn recordio fel artist unigol o dan yr enw "Ani Glass".
Mae hi'n disgrifio ei cherddoriaeth fel "pop rhyngwladol Cymreig!"
Mae ganddi ddwy gân newydd, Ffôl, a chân ddwyieithog arall o'r enw Little Things.
Bydd y ddwy'n cael eu rhyddhau fel sengl ddigidol ar ddydd Llun 20/07/15.
Gallwch wrando ar y ddwy ar ei gwefan soundcloud (soundcloud.com/aniglass) neu brynu'r sengl o aniglass.bandcamp.com
Mae Ani hefyd yn ffotograffydd o fri, ac mae ganddi arddangosfa o'i ffotograffau yn "Arteas", Caerdydd tan ddiwedd Awst.
Dilynwch Ani ar Twitter - @anisaunders
















































