Trac yr Wythnos: Chwalfa – Newid y Byd
<b>Sengl newydd y band o Fangor.</b>
Dyma sengl newydd y band o Fangor, sydd wedi ei rhyddhau ar Soundcloud ar hyn o bryd.

Fe gafodd y gân ei recordio mewn stiwdio ym Mhenmaenawr hefo’r cynhyrchydd Russ Hayes sydd wedi gweithio hefo Catfish And The Bottlemen a Band Pres Llareggub. Mae’r grwp yn gobeithio rhyddhau casgliad newydd o ganeuon yn fuan, ac mae’r gân yma’n arwydd o’u cyfeiriad cerddorol newydd, ac yn agosach i’r sŵn y mae’n nhw’n anelu amdano ar hyn o bryd.
Mae’r gân yn sôn “am yr haf yn bennaf – neu unrhyw adeg y mae rhywun yn teimlo y byddai’n braf medru newid byd a medru cael amser da o hyd, heb boeni am gyfrifoldebau”.
Aelodau’r grŵp yw Guto Evans, Caleb Rhys, Elis Derbyshire a Tomos Morris-Jones, ac ym mis Medi 2015 fe ddaeth yr EP gynta “Byw” allan
Ar Ragfyr 3ydd, mae gan Chwalfa gig arbennig iawn yn Galeri Caernarfon hefo Yr Eira a Fleur De Lys
















































